Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/11/2024 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r Sylwedyddion i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters AS.

1.2         Cafwyd datganiad o fuddiant gan Adam Price AS oherwydd ei gyfranogiad blaenorol mewn gweithdy ar ddichell yng nghwmni’r tystion.

 

(10.00 - 10.45)

2.

Ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd: Sesiwn dystiolaeth 11

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Andrew Blick a Dr Dexter Govan ynghylch atebolrwydd Aelodau unigol o’r Senedd.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

3.1 Cytunwyd ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(10.45 - 11.00)

4.

Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn.