Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad. 1.2 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant, na dirprwyon.
Esgusododd Peredur Owen Griffiths ei hun ar gyfer yr eitem olaf. |
||
(9.30 - 10.00) |
Diweddariad gan y Cadeirydd Cofnodion: 2.1 Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r
Pwyllgor am ei thrafodaethau gyda’r Comisiynydd Safonau. 2.2 Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r
Pwyllgor am ddigwyddiad lobïo yng Nghymru yr oedd yn bresennol ynddo ar 28
Tachwedd. |
|
(10.00 - 10.15) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Grwpiau
Trawsbleidiol a chytunodd y dylid ei osod. 3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor
Biliau Diwygio at y Comisiynydd Safonau a chytunodd y byddai’n ymateb ar ôl
gweld ymateb y Comisiynydd, pe bai angen. |
|
(10.15 - 11.00) |
Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd
Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i). |