Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant. |
|
(9.35 - 10.00) |
Cofrestru manylion aelodau o'r teulu o dan Reolau Sefydlog 2 a 3 Cofnodion: 2.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ysgrifennu
at y Prif Weithredwr i gael rhagor o wybodaeth. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i drafod y mater hwn fel
rhan o'i adolygiad o gofrestru buddiannau, yn ddiweddarach yn y flwyddyn. |
|
(10.00 - 10.55) |
Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a'r Weithdrefn
ddiwygiedig a chytunodd i wneud nifer o newidiadau pellach, a dychwelyd at y
mater yn y cyfarfod nesaf. |
|
(10.55 - 11.00) |
Papur i’w nodi - Adolygiad o'r Polisi Urddas a Pharch Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |