Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

 

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Andrew RT Davies, a dirprwyodd Natasha Asghar ar ei ran.

 

 

 

1.3 Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

(9:35 - 10:15)

2.

Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor fersiwn ddrafft y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd.

 

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod dogfen ymgynghori ddiwygiedig yn ei gyfarfod nesaf.

(10:15 - 11:00)

3.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).