Agenda

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Ymweliad y Pwyllgor ag Ynys Môn

Cytunodd y Pwyllgor i ymweld ag Ynys Môn i glywed am ddatblygiad y Safle Rheolaethau’r Ffin yng Nghaergybi, ac i ymweld â'r porthladd ei hun a chynnal trafodaethau ar Borthladd Rhydd Ynys Môn ac economi ehangach yr Ynys.

 

Roedd gan yr ymweliad dri nod allweddol:

  • Archwilio materion masnach a’r ffin ar ôl Brexit gan gynnwys datblygu’r Safle Rheolaethau’r Ffin ac effaith Brexit a Fframwaith Windsor ar Borthladd Caergybi;
  • Archwilio datblygiad Porthladd Rhydd Ynys Môn, gan gynnwys unrhyw fanteision ac anfanteision economaidd posibl; ac
  • Archwilio economi ehangach yr Ynys gan gynnwys heriau a chyfleoedd yn ogystal â chlywed am yr ymateb i’r penderfyniad i gau ffatri 2 Sisters.

 

Roedd yr ymweliad yn cynnwys pedair elfen - ymweld â’r Safle Rheolaethau’r Ffin ym Mharc Cybi lle cawsant daith o amgylch y safle a chyfle i gwrdd â swyddogion a fu'n rhan o’r broses o’i ddatblygu. Aeth yr Aelodau draw wedyn i'r porthladd ei hun lle buont yn trafod traffig a masnach gyda Stena - gweithredwr y porthladd. Yn olaf, aeth y Pwyllgor i Ganolfan Fusnes Môn lle cawsant ddau gyfarfod anffurfiol gyda rhanddeiliaid lleol allweddol gan gynnwys Cyngor Ynys Môn a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i drafod y porthladd rhydd ac economi ehangach yr ynys.

 

(09.30-10.35)

1.

Parc Cybi, Safle Rheolaethau’r Ffin

(10.50-12.10)

2.

Porthladd Caergybi

(12.40-15.45)

3.

Canolfan Fusnes Ynys Môn, Llangefni