Agenda

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lara Date 

Eitemau
Rhif Eitem

Ymweliad y Pwyllgor â Brwsel

Ar 13 Medi 2023, cytunodd Aelodau'r Pwyllgor ar genhadaeth canfod ffeithiau i Frwsel yn nhymor yr Hydref. Y pwrpas cyffredinol oedd cwrdd ag Aelodau o Senedd Ewrop a chynrychiolwyr o lywodraethau a sefydliadau sy’n gweithio mewn meysydd yn ymwneud â chylch gorchwyl y Pwyllgor ac y mae gan Lywodraeth Cymru bartneriaethau strategol â nhw. Roedd hyn yn cynnwys sefydliadau masnach, amaethyddiaeth a physgodfeydd, a’r rhai sy’n gweithio ym maes ymchwil a datblygu, gan gynnwys Horizon Ewrop.

 

Roedd yr ymweliad yn galluogi’r Pwyllgor i gryfhau ei gysylltiadau â’i gymheiriaid yn yr UE a sefydliadau Ewropeaidd perthnasol, gan gynnwys Senedd Ewrop a sefydliadau eraill yr UE a chynrychiolwyr sydd wedi’u lleoli ym Mrwsel.

 

Trafodwyd ystod eang o faterion yn ystod yr ymweliad. Roedd y rhain yn cynnwys y berthynas rhwng Cymru, y DU a'r UE, y Cytundeb Masnach a Chydweithredu gan gynnwys agweddau ar bysgodfeydd, y Model Gweithredu Targed y Ffin; cynrychiolaeth Cymru ar Grŵp Cynghori Domestig y DU, a materion yn ymwneud â thariffau a rheolau tarddiad ar fatris a cherbydau trydan; Materion amaethyddol gan gynnwys diwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, mesurau adfer natur a'r agenda cynaliadwyedd, a chyfwerthedd cynnyrch organig; ac Addysg Uwch ac ymchwil ac arloesi, gan gynnwys rhaglen gyfnewid ryngwladol Taith, a chyfleoedd i gydweithio drwy raglen Horizon.

 

Dydd Mercher 15 Tachwedd

1.

Senedd Ewropeaidd

Cyfarfod gyda François Alfonsi ASE, aelod o’r Pwyllgor ar Ddatblygu Rhanbarthol a’r Pwyllgor ar Faterion Tramor.

 

2.

Business Europe

Cyfarfod gyda Louisa Santos, Dirprwy Gyfarwyddwr

 

Dydd Iau 16 Tachwedd

3.

Cenhadaeth y DU i'r Undeb Ewropeaidd

Cyfarfod gyda Zoӫ Compston, Cwnselydd, Nwyddau, Iechyd a'r Amgylchedd, a chydweithwyr

 

4.

Swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel

Cyfarfod gydag Eleanor Vaughan, Pennaeth y Swyddfa, a Gavin Lewis, Pennaeth Polisi Economaidd, Cymdeithasol a Rhanbarthol

 

5.

Copa-Cogeca, corff sy'n cynrychioli ffermio ac undebau ffermio

Cyfarfod gyda Branwen Miles, Uwch Gynghorydd Polisi; Oana Neagu, Cyfarwyddwr, Materion Cyffredinol; Ksenija Simovic, Uwch Gynghorydd Polisi, Masnach a Materion Rhyngwladol; Niall Curley, Pridd a Bioamrywiaeth; Thomas Sanchez, Da Byw a Lles Anifeiliaid  a Ffytoiechydol

 

6.

Biwro Amaethyddol Prydain

Cyfarfod gyda Katy Adams, Uwch Swyddog Polisi

 

7.

Y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol

Cyfarfod gyda Fergus McReynolds, Cyfarwyddwr Materion yr UE

 

8.

Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB)

Cyfarfod gyda Catherine Marston, Swyddog Datblygu Strategol