Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/01/2024 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS a Heledd
Fychan AS, gyda John Griffiths MS yn dirprwyo ar ran Buffy a Sioned Williams AS yn dirprwyo ar ran Heledd. 1.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams
AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi
gan Brifysgol Abertawe. |
|
(09.30 - 11.00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 - sesiwn dystiolaeth 2 Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Owain Lloyd,
Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg, Llywodraeth Cymru Jo-Anne Daniels,
Cyfarwyddwr Addysg Drydyddol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog mewn perthynas
â’r gyllideb ddrafft. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y materion a
ganlyn: - Dadansoddiad llawn o’r cyllid adnoddau o £74.7 miliwn y
cyhoeddwyd ym mis Hydref a fyddai’n symud o’r Prif Grŵp Gwariant Addysg a’r Gymraeg yn 2023-24. - Amlinelliad o faint y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl
ei glustnodi ar gyfer prentisiaethau gradd yn llinell y gyllideb CCAUC/Comisiwn
Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac a yw’n disgwyl unrhyw drosglwyddiadau ar gyfer
prentisiaethau gradd o Brif Grŵp Gwariant yr
Economi yn ystod blwyddyn ariannol 2024-25. - Pryd fydd y ffigurau diweddaraf ar gael am y cronfeydd
wrth gefn sydd gan ysgolion. - Rhagor o wybodaeth am y cymorth a'r cyfleoedd sydd ar
gael i weithlu'r blynyddoedd cynnar. 2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy
Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i gael rhagor o wybodaeth am Raglen Heddlu
Ysgolion Cymru. |
|
(11.00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Craffu ar Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Plant Dogfennau ategol: |
||
Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? Dogfennau ategol: |
||
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig |
|
(11.00 - 11.30) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod
y sesiwn flaenorol. |