Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00 - 10.00)

1.

Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd y bydd yn cael ei drafod ymhellach yn y cyfarfod ar 15 Chwefror.

 

(10.00 - 11.30)

2.

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: Archwilio diwygio radical – digwyddiad i randdeiliaid [gwahoddedigion yn unig]

Bydd dau ddigwyddiad i randdeiliaid, un gyda gweithwyr proffesiynol ac academyddion a’r llall gyda rhieni biolegol. Bydd y ddau yn trafod thema gyntaf yr ymchwiliad, sef ‘cyn gofal - lleihau’n ddiogel nifer y plant yn y system ofal’.

 

 

 

Cofnodion:

2.1 Cyfarfu'r Aelodau â rhieni biolegol, gweithwyr proffesiynol ac academyddion i drafod y maes 'cyn gofal' (lleihau'n ddiogel nifer y plant yn y system ofal) o'r ymchwiliad.

 

(12.00 - 12.45)

3.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

3.1 Yn amodol ar newidiadau i’w cytuno’n electronig y tu allan i’r cyfarfod Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 

(12.45 - 12.55)

4.

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical - trafod y dystiolaeth a gafwyd yn y digwyddiad i randdeiliaid

Cofnodion:

4.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywodd yn ystod y digwyddiadau i randdeiliaid.

 

(12.55 - 13.15)

5.

Blaenraglen waith - trafod y meysydd pwnc a awgrymir

Cofnodion:

5.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried y flaenraglen waith a chytunodd i gynnal ymchwiliad i wasanaethau ar gyfer plant ag anabledd. Byddai'r dull o gynnal yr ymchwiliad, gan gynnwys y cylch gorchwyl drafft, yn cael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(13.15 - 13.25)

6.

Ystyried yr ymateb drafft i Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i Benodiadau Cyhoeddus

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr.