Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2026 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Nododd y Cadeirydd fod Cefin Campbell AS yn gorfod gadael y cyfarfod ar ôl eitem 2.

 

 

09.30 - 11.00

2.

Craffu Blynyddol ar Medr

James Owen, Prif Swyddog Gweithredol, Medr

Giles Cutler, Prif Swyddog Ariannol, Medr

 

Medr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024-25

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Medr a’i adroddiad blynyddol.

2.2 Cytunodd Medr i ddarparu nodyn am y canlynol:

- Y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa yng Ngholeg Cambria o ran dysgwyr heb eu lleoli.

- Rhagor o wybodaeth am y rhesymau pam bod cymaint o anghysondeb rhwng cyfran y dysgwyr sydd eisiau ymgymryd â phrentisiaeth a chyfran y dysgwyr sy'n gwneud hynny yn y pen draw.

- Gwybodaeth am faint o gyflogeion cwmni Dur Tata a gafodd gefnogaeth drwy gyllid sgiliau cyhoeddus ac a aeth ymlaen i sicrhau cyflogaeth neu symud ymlaen at lwybrau cadarnhaol eraill ar ôl cwblhau eu cyfnodau dysgu.

 

11.00

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

 

3.1

Gwybodaeth gan Randdeiliaid

Dogfennau ategol:

3.2

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27

Dogfennau ategol:

3.3

Gwybodaeth gan Randdeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog.

 

3.4

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27

Dogfennau ategol:

11.00

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

11.00 - 11.10

5.

Craffu Blynyddol ar Medr - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

11.20 - 12.20

6.

Recriwtio a Chadw Athrawon - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, a chytunwyd ar newidiadau. Byddai’r newidiadau a chymeradwyo terfynol yn cael eu cyflawni yn electronig.

 

12.20 - 12.30

7.

Gwella ysgolion a chyrhaeddiad dysgwyr - ystyried yr ohebiaeth

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor ddarn o ohebiaeth mewn cysylltiad â'r gwaith y mae'n ei wneud ar wella ysgolion a chyrhaeddiad dysgwyr.

 

12.30 - 12.40

8.

Blaenraglen waith - trafodaeth ar sesiwn graffu Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y meysydd yr hoffent ganolbwyntio arnynt ar gyfer y sesiynau craffu sydd ar ddod gyda Llywodraeth Cymru.