Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/07/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09.00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Cefin Campbell AS a dirprwyodd Sian Gwenllian AS ar ei ran.

 

09.00

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3 ac 8 yn y cyfarfod heddiw ac ar gyfer eitem 1 yn y cyfarfod ar 17 Medi

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

09.00 - 09.15

3.

Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Strategol Cymwysterau Cymru

Cofnodion:

3.1 Ystyriodd y Pwyllgor gyfreithlondeb estyniad arfaethedig Llywodraeth Cymru i dymor rôl Cadeirydd presennol Bwrdd Strategol Cymwysterau Cymru tan fis Rhagfyr 2025.

3.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gael eglurhad ar y mater.

3.3 Yn dilyn y cyfarfod, cafodd y Pwyllgor lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn nodi ei bod wedi tynnu ei chynnig yn ôl ar gyfer estyniad i dymor rôl Cadeirydd Bwrdd Strategol Cymwysterau Cymru. Cytunodd y Pwyllgor felly nad oedd angen ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet mwyach.

 

09.15 - 10.15

4.

Recriwtio a Chadw Athrawon - sesiwn dystiolaeth 7

Christopher Williams, Arweinydd Cwrs, SAC Cynradd, Prifysgol De Cymru [drwy Zoom]

Dave Stacey, Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac yn cynrychioli partneriaeth AGA yr Athrofa

Dr Sarah Stewart, Cyfarwyddwr y rhaglen TAR yng Nghymru, Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Dr Angella Cooze, Uwch Ddarlithydd TAR Saesneg a Chyfarwyddwr Rhaglen TAR Uwchradd, Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ddarparwyr hyfforddiant i athrawon.

4.2 Cytunodd y Brifysgol Agored i ddarparu rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyfraddau tynnu'n ôl o raglen TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru.

 

 

10.25 - 11.20

5.

Recriwtio a Chadw Athrawon - sesiwn dystiolaeth 8

Rebecca Williams, Uwch Reolwr Sgiliau Iaith a Chynllunio’r Gweithlu, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dona Lewis, Prif Weithredwr, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol [drwy Zoom]

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

 

11.25 - 12.20

6.

Recriwtio a Chadw Athrawon - sesiwn dystiolaeth 9

Y Cynghorydd Deborah Davies, Dirprwy Lefarydd Addysg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Dirprwy Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac Aelod o'r Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar [drwy Zoom]

Dr Lowri Brown, Is-gadeirydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a Phrif Swyddog Addysg, Cyngor Conwy [drwy Zoom]

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.

 

12.20

7.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

7.1 Cafodd y papurau eu nodi.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i godi’r materion ynghylch iechyd meddwl amenedigol a godwyd ym mhapurau i’w nodi 3 a 4.

 

7.1

Recriwtio a Chadw Athrawon

Dogfennau ategol:

7.2

Materion sy'n wynebu'r Sector Addysg Uwch

Dogfennau ategol:

7.3

Gwybodaeth gan Randdeiliaid

Dogfennau ategol:

7.4

Gwybodaeth gan Randdeiliaid

Dogfennau ategol:

7.5

Gwybodaeth gan Randdeiliaid

Dogfennau ategol:

7.6

Adolygu Effeithiolrwydd Pwyllgorau yn y Chweched Senedd

Dogfennau ategol:

7.7

Materion sy'n wynebu'r Sector Addysg Uwch

Dogfennau ategol:

7.8

Materion sy'n wynebu'r Sector Addysg Uwch

Dogfennau ategol:

7.9

Gwybodaeth gan Randdeiliaid

Dogfennau ategol:

12.20 - 12.30

8.

Recriwtio a Chadw Athrawon - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau tystiolaeth blaenorol.