Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/12/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

(09.15)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 3, eitem 7, Eitem 8 ac eitem 9 ar agenda’r cyfarfod hwn.

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.15 - 09.30)

3.

Gweithredu diwygiadau addysg - ystyried y camau nesaf

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried y camau nesaf, a chytunodd y byddai'r sesiwn gysylltu nesaf yn cael ei chynnal yn nhymor y gwanwyn/haf. Byddai hyn yn cynnwys ymweliadau ag ysgolion a sesiynau tystiolaeth lafar.

 

(09.30 - 10.45)

4.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru 2022 - 2023

David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru

Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru

 

Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru 2022 - 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn holi Cymwysterau Cymru yn fanwl ynghylch ei adroddiad blynyddol.

 

(11.00 - 12.00)

5.

Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 3

Mark Campion, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Estyn [drwy Zoom]

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Estyn.

 

(12.00)

6.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

6.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

6.1

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25

Dogfennau ategol:

6.2

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24

Dogfennau ategol:

6.3

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24

Dogfennau ategol:

6.4

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical

Dogfennau ategol:

(12.00 - 12.10)

7.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru 2022 - 2023: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

(12.10 - 12.15)

8.

Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - trafod y dystiolaeth.

Cofnodion:

8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

(12.15 - 12.30)

9.

Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru - trafod ymateb y Pwyllgor

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr ymateb drafft.