Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/10/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.

 

(09.30 - 10.30)

2.

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? – Sesiwn dystiolaeth 7

Sharon Davies, Pennaeth Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Catherine Davies, Swyddog Polisi ADY, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Gaynor Davies, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a chynrychiolydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

Liz Jones, Arweinydd Cynhwysiant Cyngor Bro Morgannwg a chynrychiolydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.

2.2 Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ymchwilio ymhellach i ba mor gyfredol yw strategaethau hygyrchedd awdurdodau lleol.

 

(10.40 - 11.20)

3.

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? – Sesiwn dystiolaeth 8

Catherine Falcus, Arbenigwr Polisi ac Arweinyddiaeth, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru

 

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau.

3.2 Cytunodd y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau i wirio a oedd ganddynt unrhyw enghreifftiau o ddysgwyr ag anghenion ychwanegol sydd wedi profi bwlio yn yr ysgol, ac os felly, i'w rhannu â'r Pwyllgor.

 

(11.20 - 12.20)

4.

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? – Sesiwn dystiolaeth 9

Mary van den Heuvel, Uwch Swyddog Polisi Cymru, yr Undeb Addysg Genedlaethol

Mike O’Neill, Aelod o Fforwm Trefnu'r Undeb Addysg Cenedlaethol, a chynrychiolydd yr Undeb Addysg Cenedlaethol ar gyfer Merthyr

Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

Urtha Felda, Swyddog Polisi a Gwaith Achos, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan UCAC, NASUWT, NEU a NEU.

4.2 Datganodd Mary van den Heuvel o NEU ei bod yn Aelod o Bwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru.

4.3 Cytunodd NEU i ddarparu ei adnoddau i Aelodau ar gynhwysiant anabledd.

 

 

(12.20)

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Gwybodaeth gan Randdeiliaid

Dogfennau ategol:

5.2

Gwybodaeth gan Randdeiliaid

Dogfennau ategol:

5.3

P-06-1347 Adolygu polisïau anghenion dysgu ychwanegol a'i gwneud yn orfodol i hyfforddi pob athro a chynorthwyydd addysgu mewn technegau rheoleiddio YN LLAWN

Dogfennau ategol:

5.4

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24

Dogfennau ategol:

5.5

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Dogfennau ategol:

5.6

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Dogfennau ategol:

5.7

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Dogfennau ategol:

5.8

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Dogfennau ategol:

5.9

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Dogfennau ategol:

5.10

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical

Dogfennau ategol:

5.11

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical

Dogfennau ategol:

5.12

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical

Dogfennau ategol:

5.13

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?

Dogfennau ategol:

5.14

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

5.15

Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch

Dogfennau ategol:

(12.20)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.20 - 12.30)

7.

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? – Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.