Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/05/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i
gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg 1.2
Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09.15 - 10.15) |
A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? : sesiwn dystiolaeth 1 Rocio Cifuentes,
Comisiynydd Plant Cymru Sara Jermin,
Pennaeth Cyfathrebu a Pherfformiad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant
Cymru. 2.2 Cytunodd y Comisiynydd i rannu â'r Pwyllgor sylwadau
gan blant a phobl ifanc ar yr effaith y mae gwahaniaethu yn ei chael ar eu
hiechyd meddwl a'u llesiant a sut y mae hyn yn effeithio ar ganlyniadau addysg
dysgwyr. 2.3 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu, pan gaiff ei
gyhoeddi, adroddiad ar y cyd â Chomisiynydd y Gymraeg ar ddarpariaeth Gymraeg
i’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. |
|
(10.30 - 11.30) |
A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? : sesiwn dystiolaeth 2 Ruth Coombs,
Pennaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. 3.2 Cytunodd y Comisiwn i gysylltu â rhanddeiliaid i weld
sut beth yw darpariaeth cymorth i deuluoedd mewn ardaloedd gwledig. 3.3 Cytunodd y Comisiwn i ddarparu unrhyw dystiolaeth
sy'n awgrymu bod teuluoedd yn symud eu plant i ddarpariaeth arbenigol oherwydd
yr amseroedd aros ar gyfer asesiadau mewn addysg brif ffrwd. |
|
(11.30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth gan Randdeiliaid Dogfennau ategol: |
||
(11.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.30 - 11.45) |
Mynediad at addysg i blant a phobl ifanc anabl - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn
ystod y sesiynau blaenorol. 6.2 Cytunodd yr Aelodau i fynd ar drywydd rhai pwyntiau
penodol a godwyd gyda Chomisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Cenedlaethau'r
Dyfodol. |
|
(11.45 - 12.15) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon - trafod y dull gweithredu Cofnodion: 7.1 Cytunodd yr Aelodau i gydweithio â'r Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. 7.2 Cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder
Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ragor o
wybodaeth ac i ysgrifennu at randdeiliaid allweddol i ofyn am eu barn. |
|
(12.15 - 12.30) |
Diweddariad ar weithgareddau'r Pwyllgor Cofnodion: 8.1 Rhoddodd yr Aelodau ddiweddariadau llafar ar
weithgareddau’r Pwyllgor yr oeddent wedi’u cyflawni yn ystod y tymor. 8.2 Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau
am y cyfarfodydd a ganlyn a gynhaliwyd: - Diweddariad ar gyfarfodydd gweinidogol misol - Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol - School of Hard Knocks - Hope not Handcuffs - CITB - BBFC - Y Comisiynydd Plant - Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - Cymdeithas - The Brilliant Club - Schoolwear Association 8.3 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Weinidog y
Gymraeg ac Addysg ac at holl brifysgolion Cymru ar bwynt penodol a godwyd
ynghylch myfyrwyr tramor. |