Agenda a Chofnodion
- Manylion Presenoldeb
- Agenda PDF 199 KB Gweld Agenda fel HTML
- Papurau ar gyfer y cyfarfod hwn mewn pecyn PDF
- Gwybodaeth ychwanegol: Adroddiad y Pwyllgor ar y gyllideb ddrafft a llythyr gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd PDF 126 KB
- Cofnodion y gellir eu hargraffu PDF 198 KB Gweld Cofnodion fel HTML
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00 - 10.00) |
Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd
y bydd yn cael ei drafod ymhellach yn y cyfarfod ar 15 Chwefror. |
|
(10.00 - 11.30) |
Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: Archwilio diwygio radical – digwyddiad i randdeiliaid [gwahoddedigion yn unig] Bydd dau
ddigwyddiad i randdeiliaid, un gyda gweithwyr proffesiynol ac academyddion a’r
llall gyda rhieni biolegol. Bydd y ddau yn trafod thema gyntaf yr ymchwiliad,
sef ‘cyn gofal - lleihau’n ddiogel nifer y plant yn y system ofal’. Cofnodion: 2.1 Cyfarfu'r Aelodau â rhieni biolegol, gweithwyr
proffesiynol ac academyddion i drafod y maes 'cyn gofal' (lleihau'n ddiogel
nifer y plant yn y system ofal) o'r ymchwiliad. |
|
(12.00 - 12.45) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 3.1 Yn amodol ar newidiadau i’w cytuno’n electronig y tu
allan i’r cyfarfod Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |
|
(12.45 - 12.55) |
Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical - trafod y dystiolaeth a gafwyd yn y digwyddiad i randdeiliaid Cofnodion: 4.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywodd yn
ystod y digwyddiadau i randdeiliaid. |
|
(12.55 - 13.15) |
Blaenraglen waith - trafod y meysydd pwnc a awgrymir Cofnodion: 5.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried y flaenraglen waith a
chytunodd i gynnal ymchwiliad i wasanaethau ar gyfer plant ag anabledd.
Byddai'r dull o gynnal yr ymchwiliad, gan gynnwys y cylch gorchwyl drafft, yn
cael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(13.15 - 13.25) |
Ystyried yr ymateb drafft i Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i Benodiadau Cyhoeddus Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr. |