Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth 

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau a ganlyn:

  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Gwella mynediad at gymorth ariannol i bobl ledled Cymru (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Teithio i Bawb Trafnidiaeth i Bawb (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) (30 munud) - Gohiriwyd tan 24 Chwefror

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.10pm.

 

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 27 Ionawr 2026

  • Dadl: Setliad yr Heddlu 2026-27 (30 munud)gohiriwyd
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) (60 munud) - gohiriwyd tan 24 Chwefror

 

Dydd Mawrth 3 Chwefror 2026

  • Datganiad: Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 (5 munud)
  • Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (5 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 4 Chwefror 2026

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion posibl i’w trafod ar 28 Ionawr 2026 a chytunodd i amserlennu’r ddadl Aelod ganlynol a gyflwynwyd gan Cefin Campbell AS:

 

NNDM9115

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi darpariaethau Cyfraith Helen, neu Ddeddf Carcharorion (Datgelu Gwybodaeth am Ddioddefwyr) 2020 yn ffurfiol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r bwrdd parôl ystyried a yw troseddwyr wedi datgelu lleoliad gweddillion dioddefwr neu wedi nodi dioddefwyr oedd yn blant wrth wneud penderfyniadau parôl.

2. Yn cydnabod bod y Ddeddf wedi'i chyflwyno yn dilyn achos Helen McCourt, nad yw ei llofrudd erioed wedi datgelu lleoliad ei chorff, a bod peidio â datgelu hynny yn parhau i achosi trallod sylweddol a pharhaus i deuluoedd dioddefwyr.

3. Yn nodi galwadau am gyflwyno Deddf Helen Rhan 2: Atal Halogi, sy'n ceisio diwygio deddfau claddu a dedfrydu, gan gynnwys creu trosedd newydd o halogi corff.

4. Yn nodi ymhellach bod darpariaethau tebyg wedi'u cyflwyno yng Ngogledd Iwerddon drwy Gyfraith Charlotte, gan gynnwys gwneud cuddio olion dioddefwr yn ffactor gwaethygol statudol wrth ddedfrydu; darparu cymhellion ar gyfer cydweithredu wrth ddod o hyd i weddillion, a gosod dyletswydd ar awdurdodau parôl i ystyried achosion o beidio â datgelu.

5. Yn cydnabod bod gweithredu'r mesurau hyn yng Ngogledd Iwerddon yn dangos bod diwygiadau o'r fath yn gyraeddadwy mewn mannau eraill yn y DU.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ystyried diwygiadau deddfwriaethol cyfatebol, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU, er mwyn cryfhau cyfiawnder a darparu mwy o urddas a diweddglo i ddioddefwyr a'u teuluoedd.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a chytunodd:

  • i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl tan 23 Chwefror 2026; ac
  • i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4) ar y Bil Lles Plant ac Ysgolion at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau o 3 Chwefror 2026 i gyflwyno adroddiad.

 

Nododd Heledd Fychan fod Aelodau o grŵp Plaid Cymru wedi derbyn gohebiaeth sylweddol mewn perthynas â'r Bil Lles Plant ac Ysgolion, a holodd a ddylid ymestyn amseriad y ddadl ar 3 Chwefror 2026 y tu hwnt i 15 munud.

 

5.

Gwaith Gweithdrefnol

5.1

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes bapur yn cynnwys dadansoddiad o argymhellion a wnaed iddo gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ei adroddiad ar ei Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau: Datgan buddiannau.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod yr argymhellion gyda'u grwpiau gwleidyddol a'u hystyried ymhellach yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 29 Ionawr.

Mewn perthynas ag argymhelliad 2 o'r adroddiad hwnnw, gofynnodd y Pwyllgor Busnes am ragor o wybodaeth am oblygiadau'r hyn a argymhellir ar gyfer cynigion sy'n cael eu cyflwyno gan Reolwyr Busnes ar ran eu grŵp gwleidyddol. Nododd y Trefnydd fod arferion Aelodau wrth ddatgan buddiannau ar lafar yn ystod trafodion yn amrywio o un i’r llall ac awgrymodd y dylid egluro'r gofyniad yn y canllawiau.