Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS a David Rees AS.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. 

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth 

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y newid a ganlyn:

 

  • Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) - tynnwyd yn ôl

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm.

 

 

Dydd Mercher

 

Gofynnodd y Ceidwadwyr Cymreig i'r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig i Mark Isherwood AS gymryd lle Samuel Kurtz AS fel aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Nododd y Pwyllgor Busnes y newid a ganlyn:

 

  • Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.  
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 13 Ionawr 2026

  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau'r Gaeaf ar y GIG (45 munud)

 

Dydd Mawrth 20 Ionawr 2026

  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Amseroedd aros y GIG (45 munud)
  • Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 (5 munud)
  • Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Esemptiadau) (Cymru) 2026 (15 munud)
  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darparu Gwybodaeth am Newidiadau mewn Amgylchiadau) (Cymru) 2026 (10 munud)
  • Rheoliadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2025 (5 munud)

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Dywedodd Heledd Fychan y byddai'n debygol y bydd diddordeb sylweddol gan yr Aelodau mewn siarad ar y ddadl ar y ddeiseb ynghylch Trafnidiaeth o'r Cartref i'r Ysgol ar 14 Ionawr, ac y gallai'r 30 munud sydd wedi'u neilltuo ar hyn o bryd fod yn annigonol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn yr amser a drefnwyd ar gyfer y ddadl i 60 munud.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 14 Ionawr 2026 -

  • Dadl ar ddeiseb P-05-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim i addysg (30 60 munud)

 

Dydd Mercher 28 Ionawr 2026 -

  • Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Mike Hedges AS (Dwyrain Abertawe) (30 munud)

 

Hysbyswyd y Rheolwyr Busnes bod y Swyddfa Gyflwyno bellach wedi cynnal y balot ar gyfer Dadleuon Byr o fis Ionawr 2026, a bod y ddadl gyntaf ar 14 Ionawr wedi'i dyrannu i Adam Price AS.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Trafodion Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr opsiynau ar gyfer dyrannu dyddiadau penodol i Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau ar gyfer trafodion Cyfnod 2, a chytunodd i ddyrannu dydd Iau 12 Chwefror a dydd Gwener 13 Chwefror, pe bai angen, at y diben hwnnw.

 

Nododd y Trefnydd yr anawsterau a gafodd y Pwyllgor oherwydd terfynau amser Cyfnod 1 a dywedodd fod y Llywodraeth yn fodlon ymestyn y terfyn amser tan 16 Ionawr, gyda newid o ganlyniad i'r ddadl Egwyddorion Cyffredinol, pe bai Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau yn ystyried hynny'n ddefnyddiol. Dywedodd y Llywydd y byddai hyn yn cael ei gyfathrebu i'r Pwyllgor, ond dywedodd ei fod yn annhebygol o gynorthwyo pwyllgorau mor hwyr â hyn o ystyried y byddent yn cytuno ar adroddiadau yr wythnos hon. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i fwrw ymlaen i ddyrannu slotiau cyfarfodydd penodol ar 12 a 13 Chwefror i Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau, ac ystyried yr amserlen ar gyfer y Bil ymhellach pe bai'r Pwyllgor hwnnw'n gofyn iddo wneud hynny.

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes hefyd ohebiaeth ar wahân gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i gynnal cyfarfod ychwanegol ddydd Mercher 17 Rhagfyr er mwyn ystyried ei adroddiad ar y Bil. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i’r cais.

 

 

4.2

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a chytunodd i gyfeirio'r Memorandwm Atodol ar y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad terfynol ar gyfer cyflwyno adroddiad ar yr holl Femoranda ar y Bil hwn erbyn 27 Chwefror 2026.

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y Bil Cyllid (Rhif 2) wedi'i gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2025 a bod disgwyl i Femorandwm gael ei osod yn fuan. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm rhagblaen at y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad terfynol ar gyfer cyflwyno adroddiad erbyn 30 Ionawr 2026.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd ddiweddariad llafar gan y Trefnydd y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried diwygiadau posibl i'r Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes), ac y byddai'n cyflwyno unrhyw Femorandwm / Femoranda atodol angenrheidiol cyn gynted â phosibl.

 

 

5.

Gwaith Gweithdrefnol

5.1

Newidiadau drafft i Ganllawiau ar y modd priodol o gynnal busnes y Senedd – cwestiynau llefarwyr

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y diwygiadau arfaethedig i'r adran berthnasol o'r Canllawiau ar y modd priodol o gynnal busnes y Senedd, gyda'r bwriad o roi effaith i newidiadau i gwestiynau llefarwyr y cytunwyd arnynt ar 9 Rhagfyr. Dywedodd y Llywydd y bydd y Canllawiau diwygiedig ar waith cyn y Cyfarfod Llawn cyntaf yn 2026.

 

 

5.2

Llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn perthynas â'i adroddiad ar ddatganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a'r hysbysiad ymlaen llaw a ddarparwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad o argymhellion ar gyfer newidiadau i Reolau Sefydlog y mae'n bwriadu eu gwneud ym mis Ionawr. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried cyngor pellach ar y cynigion yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

 

 

5.3

Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwyr Busnes adborth gan eu grwpiau ar yr opsiynau amserlen lefel uchel ar gyfer Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd, a chytunodd i ofyn i swyddogion baratoi opsiwn wedi’i fireinio o amserlen tair wythnos i'w ystyried yn fanwl yn y Flwyddyn Newydd.

 

 

6.

UFA

Cofnodion:

Yn dilyn cynnydd diweddar yn y nifer o Aelodau sy'n ceisio pleidleisio o bell yn y Cyfarfod Llawn heb roi hysbysiad ymlaen llaw yn unol â'r Canllawiau ar Drafodion Rhithwir a Hybrid, dywedodd y Llywydd ei bod yn bwriadu gorfodi'r Canllawiau yn llym o ddechrau 2026.

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes bryderon ynghylch rhai elfennau o'r diwylliant sydd wedi codi mewn perthynas ag Aelodau'n mynychu'r Cyfarfod Llawn yn y cnawd ond yn dychwelyd adref i bleidleisio o bell. Trafododd y Rheolwyr Busnes hefyd y manteision sydd wedi deillio o'r hyblygrwydd cynyddol a ddarperir i'r Aelodau o ganlyniad i gyfranogiad o bell a phleidleisio o bell, gan gynnwys mewn perthynas â chynhwysiant a chefnogi Aelodau â chyfrifoldebau gofalu, wedi'u cydbwyso â heriau ynghylch ymarferoldeb cadw'r darpariaethau presennol yng ngoleuni'r cynnydd ym maint y Senedd o fis Mai 2026.

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes sawl ffordd bosibl y gellid addasu arferion ynghylch pleidleisio o bell, a chytunwyd i ystyried y materion gyda'u grwpiau ac i ddychwelyd i ystyried opsiynau manwl mewn cyfarfod dilynol.