Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd y
Llywydd ymddiheuriadau ar gyfer eitemau 6.1 a 6.2, a gafodd eu cadeirio gan y
Dirprwy Lywydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Gofynnodd
Darren Millar a Heledd Fychan am ddatganiad llafar gan y Prif Weinidog ar ei
ymweliad â Tata Steel yn India. Nododd y Trefnydd fod datganiad ysgrifenedig
wedi'i gyhoeddi a chytunodd i ychwanegu datganiad llafar ar y mater at agenda'r
Cyfarfod Llawn heddiw: · Datganiad gan y Prif Weinidog: Tata
Steel (60 munud) · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.00pm Dydd
Mercher Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i newid
aelodau Llafur ar nifer o bwyllgorau i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd
Mercher. Felly, cytunwyd ar y newid a ganlyn i agenda dydd Mercher: ·
Cynnig i
ethol Aelodau i bwyllgorau (5 munud) · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.15pm |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd
wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiad a ganlyn i amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth 4 Mehefin 2024 ·
Datganiad
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol:
Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol - ailddatgan ein gwerthoedd (45 munud) Gofynnodd
Heledd Fychan am eglurder ynghylch a fydd y datganiad uchod yn canolbwyntio ar
bortffolio llawn Ysgrifennydd y Cabinet. Dywedodd y Trefnydd y byddai hyn yn
digwydd. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf: Dydd Mercher 12 Mehefin 2024 – ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Gweithredu, nid
geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030 (60 munud)
|
|
Cynigion deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynnig arfaethedig ar gyfer
dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig ar 22 Mai: Sioned Williams NNDM8580 Cynnig bod y
Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil addysg wleidyddol. 2. Yn nodi mai diben y
Bil fyddai: a) sicrhau bod pob
dysgwr mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru yn cael addysg benodol yn ymwneud â
gwleidyddiaeth a democratiaeth Cymru; b) ei gwneud yn ofynnol
i bob ysgol a choleg sicrhau bod dysgwyr yn deall pwysigrwydd ymgysylltu
dinesig ym mhroses ddemocrataidd Cymru; ac c) sicrhau bod pobl
ifanc 16 ac 17 oed yn teimlo'n fwy hyderus a gwybodus am etholiadau a phwrpas a
phroses bwrw eu pleidlais. |
|
NNDM8578 – Dyfodol gwaith dur Port Talbot Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes gais a
wnaed gan Luke Fletcher i drefnu dadl ar Gynnig Heb Ddyddiad Trafod 8578
ynghylch dyfodol gwaith dur Tata ym Mhort Talbot. Mynegodd Heledd Fychan gefnogaeth i
amserlennu dadl ar y cynnig. Cytunodd mwyafrif ar y Pwyllgor
Busnes y dylid ychwanegu datganiad llafar gan y Prif Weinidog ar y pwnc hwn at
agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw yn hytrach nag amserlennu dadl, fel y dangosir o
dan eitem 3.1. |
|
Deddfwriaeth |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd
i wneud yr hyn a ganlyn:
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes lythyr y Pwyllgor a'i sylwadau ynghylch pwysigrwydd rhoi digon o amser i
bwyllgorau graffu ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch ei adolygiad arfaethedig o Reol Sefydlog 29.1 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i
ymateb i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i nodi ei fod yn
disgwyl ystyried ymhellach ei waith ar y broses cydsyniad deddfwriaethol, gan
gynnwys y materion a godwyd, cyn toriad yr haf. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ynghylch cylch gwaith y pwyllgor Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes lythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ynghylch ei
gylch gwaith a chytunodd i ysgrifennu at bwyllgorau eraill y Senedd i'w gwahodd
i roi eu barn ar gylch gwaith presennol y pwyllgorau, yng ngoleuni newidiadau i
bortffolios gweinidogol. |
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
Trefniadau cadeirio dros dro Pwyllgor y Llywydd Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes newid
arfaethedig i Reol Sefydlog 18B a’r canllawiau drafft sy’n gysylltiedig â hyn a
chytunwyd i adroddiad drafft gael ei lunio i gynnig y newid i’r Senedd. |
|
Terfyn amser ar gyfer cyflwyno gwelliannau Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur
yn cynnwys opsiynau i ganiatáu rhagor o amser rhwng terfynau amser cyflwyno
gwelliannau deddfwriaethol a thrafodion ar y gwelliannau hynny. Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y mater yn ei
gyfarfod nesaf i gael trafodaeth bellach ar y posibilrwydd o ddwyn ymlaen y
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau i saith diwrnod cyn y trafodion, a
hynny dros dro, cyn yr adolygiad ehangach o’r broses graffu ddeddfwriaethol a
drefnwyd yn ei raglen waith gweithdrefnol. |