Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Lesley Griffiths a Darren Millar. Roedd Jane Hutt a Russell George yn bresennol yn y cyfarfod fel dirprwyon.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

 

  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
  • Cynnig i gymeradwyo enwebu Cwnsler Cyffredinol (5 mun)
  • Enwebu cadeiryddion pwyllgorau (5 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni blaenoriaethau Cymru (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) (60 munud) Gohiriwyd tan 21 Mai

 

Ar ôl i gadeiryddion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ymddiswyddo wedi iddynt gael eu penodi i rolau Gweinidogol, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai cadeiryddion y pwyllgorau hynny barhau i gael eu dyrannu i grŵp Llafur. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai enwebiadau'n cael eu gwahodd ar ôl y Cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, gyda chanlyniad unrhyw bleidleisiau sydd eu hangen yn cael eu cyhoeddi cyn y Cyfnod Pleidleisio.

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.20pm

 

Dydd Mercher

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiadau a ganlyn:

 

·       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)

·       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

·       Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud)

·       Cynnig i benodi Aelod i Gomisiwn y Senedd (5 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i benodi Jane Hutt fel aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Lesley Griffiths.

 

Yn dilyn ei ymddiswyddiad, cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dylid gwahodd y grŵp Llafur i gynnig Aelod yn lle Ken Skates ar Gomisiwn y Senedd ac i gynnig gael ei gyflwyno i'w ystyried ddydd Mercher.

 

Gwnaeth y Llywydd atgoffa Rheolwyr Busnes am yr amseriadau ar gyfer cyfraniadau siarad yn ystod dadleuon 30 munud y gwrthbleidiau sydd wedi’u trefnu ar gyfer dydd Mercher.

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 23 Ebrill 2024

 

·       Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc (30 munud)

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Blaenoriaethau economaidd (30 munud)

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Blaenoriaethau trafnidiaeth (30 munud)

·       Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 (15 munud) - gohiriwyd

·       Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 (15 munud) - gohiriwyd

 

Dydd Mercher 24 Ebrill 2024

 

·       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip (45 munud)

·       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

Dydd Mercher 1 Mai 2024

 

·       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg Weinidog yr Economi (45 munud)

·       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:   

 

Dydd Mercher 24 Ebrill 2024 -

  • Dadl fer: Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Peter Fox AS (Mynwy)(30 munud)

 

Dydd Mercher 8 Mai 2024 –

·      Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Sut y mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail rhywedd (60 munud)

·      Dadl ar Ddeiseb P-06-1392: Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (30 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl fer: Peredur Owen Griffiths AS (Dwyrain De Cymru) (30 munud)

 

 

3.4

Cynigion deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 24 Ebrill:

Janet Finch-Saunders

NNDM8504 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai’n gwneud darpariaethau ar gyfer targedau i atgyfnerthu diogeledd bwyd yng Nghymru.   

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i bennu targedau i wella diogeledd bwyd yng Nghymru.   

 

 

3.5

Amserlen ar gyfer Cwestiynau Llafar

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen newydd ar gyfer cwestiynau llafar.

Ymgynghorodd y Llywydd â'r Rheolwyr Busnes ynghylch a ddylid galw ar lefarwyr i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Darpar Gwnsler Cyffredinol gan ystyried cyfrifoldebau newydd y gweinidogion. Yng ngoleuni'r safbwyntiau a fynegwyd, nododd y Llywydd y byddai'n parhau i alw ar lefarwyr i ofyn cwestiynau heb rybudd ac i barhau i adolygu'r trefniadau.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:

  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Cyfiawnder Troseddol a osodwyd ar 2 Ebrill at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 7 Mehefin 2024.
  • cyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig a osodwyd ar 5 Ebrill i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad terfynol o 22 Ebrill 2024 i gyflwyno adroddiad.
  • ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhentwyr (Diwygio) tan 10 Mai.

Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd y cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ei osod ar 15 Ebrill 2024, ar ôl cael ei gyfeirio yn ei gyfarfod blaenorol at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau o 29 Ebrill 2024 ar gyfer cyflwyno adroddiad.

 

 

4.2

Papur i'w nodi - Llythyr gan y Prif Weinidog ynghylch yr Aelodau sy'n gyfrifol am Filiau'r Llywodraeth

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

 

5.

Gwaith Gweithdrefnol

5.1

Y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen waith weithdrefnol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar amserlennu arfaethedig ei waith gweithdrefnol.