Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth -
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. -
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.30pm Dydd
Mercher -
Ni fydd Cyfnod Pleidleisio. -
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o
fynd y tu hwnt i 7.10pm Gofynnodd
Heledd Fychan am ddatganiad gan y Llywodraeth yr wythnos hon ar y sefyllfa yn
Hirwaun lle mae nifer o drigolion wedi cael eu cynghori i adael eu heiddo
oherwydd bod RAAC yn cael ei ddarganfod. Dywedodd y Trefnydd y byddai
ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddarparu datganiad. Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn cyhoeddi y bydd balot terfynol Bil
Aelod y Senedd hon yn cael ei gynnal ar 24 Ebrill ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn
ddydd Mercher. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
19 Mawrth 2024 ·
Dadl:
Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (60
munud) ·
Dydd Mawrth
16 Ebrill 2024 ·
Datganiad
gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol
(Cymru) (60 munud) ·
Cynnig i
amrywio’r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac
Etholiadau) (5 munud) ·
Bil
Seilwaith (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi (5 mun) ·
Dadl:
Cyfnod 4 Bil Seilwaith (Cymru) (15 munud) Trafododd y
Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cydnabod ymddiswyddiad y Prif Weinidog yn
y Cyfarfod Llawn ar 19 Mawrth, a chytunwyd y byddai'r trefniadau'n cael eu
cwblhau yn dilyn trafodaeth bellach rhwng y Llywodraeth a'r Llywydd. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd
Mercher 24 Ebrill 2024 –
|
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig
canlynol i’w drafod ar 20 Mawrth: Heledd
Fychan NNDM8505 Cynnig bod y Senedd: 1. O’r farn: a) bod casgliadau cenedlaethol
Cymru – sydd o dan ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru – yn
perthyn i bawb yng Nghymru; b) bod angen gwarchod y casgliadau
ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, tra hefyd yn parhau i gael eu defnyddio i
ysbrydoli ac ysgogi pobl o bob oed; a c) bod mynediad am ddim i’n
hamgueddfeydd cenedlaethol wedi bod yn llwyddiant diamheuol ers cyflwyno’r
polisi yn 2001, a bod y polisi hwn yn un y dylid ei warchod. 2. Nodiadau: a) rhybuddion gan y sefydliadau bod
toriadau cyllidol refeniw a chyfalaf yn peryglu’r casgliadau cenedlaethol,
oherwydd llefydd a storfeydd anaddas, a hefyd gostyngiad yn nifer y staff
arbenigol sydd bellach yn cael eu cyflogi i ofalu amdanynt; b) y pryderon y bydd toriadau
pellach yn gwaethygu'r sefyllfa; a hefyd c) cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru
o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 am ein casgliadau cenedlaethol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gymryd y camau a ganlyn: a) comisiynu panel o arbenigwyr i
sefydlu beth yw’r perygl i’r casgliadau, a gweithio gyda’r sefydliadau a
Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun i’w diogelu; b) gweithio gyda Llyfrgell
Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru – a’r undebau sy’n cynrychioli’r staff yn
y sefydliadau hyn – i sicrhau eu hyfywedd i’r dyfodol; a c) gweithio gydag Amgueddfa Cymru i
gadw’r polisi mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol. |
|
Gweithdrefnau ar gyfer Ymddiswyddiad ac Enwebu Prif Weinidog Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y papur a
chytunodd ar ganllawiau i’w rhoi i’r Aelodau ar y weithdrefn ar gyfer enwebu
Prif Weinidog newydd. |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd ynghylch amserlen ar gyfer Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) Cofnodion: Bu'r
Pwyllgor Busnes yn ystyried gohebiaeth bellach a gafwyd oddi wrth y Trefnydd yn
cynnwys gwybodaeth ychwanegol am resymau'r Llywodraeth dros gynnig amserlen
sy'n cynnwys cyfnod cyflym ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1, yn ogystal â'r farn
ar yr amserlen a fynegwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor Biliau Diwygio. Ar sail barn y mwyafrif, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr
amserlen a gynigiwyd gan y Llywodraeth. Mynegodd Darren Millar ei wrthwynebiad cryf i’r amserlen,
ei farn na ddylid cwtogi ar waith craffu ar Fil o’r natur hon, ac y dylai’r
Llywodraeth fod wedi cyflwyno’r Bil yn gynt pe bai ganddi bryderon ynghylch yr
amser sydd ar gael i roi’r darpariaethau ar waith mewn pryd ar gyfer etholiad y
Senedd 2026. Nododd
y Llywydd ei gwrthwynebiad i’r amserlen arfaethedig a dywedodd, lle mae yna
gwestiwn – fel yn yr achos hwn – a yw Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y
Senedd, gwaith craffu Cyfnod 1 yw’r man priodol i’r materion hynny gael eu
codi. Nododd y byddai'n ysgrifennu at y pwyllgorau perthnasol er mwyn rhannu ei
barn ar yr amserlen. Cwestiynodd
y Dirprwy Lywydd, fel Cadeirydd Pwyllgor y Bil Diwygio, agweddau ar gyfiawnhad
y Llywodraeth dros fod angen amserlen gyflym a mynegodd hefyd y farn, lle mae
yna gwestiwn o ran cymhwysedd, na ddylid cytuno ar amserlenni cyflym. |
|
Amserlen ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
gyfeirio Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) at y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol, i ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith
craffu, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Diwygio Cyfraith
Lesddaliad a Rhydd-ddaliad i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i gynnal gwaith craffu arnynt, a’r
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau yw 17 Mai 2024 ar gyfer y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol hwn, a rhai blaenorol eraill ar y Bil hwn. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr oddi wrth Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau – cais am slot ar gyfer dadl Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu
dadl ar ddeiseb P-06-1392. |
|
Llythyr oddi wrth Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gwneud cais am slot cyfarfod arall Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y
cais i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyfarfod fore
Mawrth 7 Mai oherwydd ei bod yn Ŵyl y Banc ar 6 Mai. |
|
Amserlen y Senedd |
|
Dyddiadau Toriadau Cofnodion: Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y dyddiadau dros dro ar gyfer Hanner Tymor yr Hydref a
Thoriad y Nadolig yn 2024. Nododd
Heledd Fychan y gallai amseriad Toriad y Nadolig effeithio ar waith craffu ar y
Gyllideb pe bai Llywodraeth Cymru yn gosod ei chyllideb ddrafft yn hwyr eto,
fel mewn blynyddoedd blaenorol. Nododd y Pwyllgor Busnes y potensial ar gyfer
gwneud addasiadau yn ddiweddarach, pe bai angen, mewn ymateb i ddigwyddiadau yn
ymwneud â’r amserlen ar gyfer y Gyllideb eleni. At hynny,
cytunodd y Pwyllgor ar ddyddiadau toriad dros dro ar gyfer Hanner Tymor y
Gwanwyn a Thoriad y Pasg yn 2025. |
|
Trefniadau Cyflwyno |
|
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Pasg Cofnodion: Cytunodd
y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn, cwestiynau
ysgrifenedig a gwelliannau i Filiau yn ystod toriad y Pasg a gwyliau banc
priodol. At hynny, nododd y Pwyllgor fod y Gweinidogion y cyfeiriwyd atynt fel
rhai a oedd yn ateb Cwestiynau Llafar ar ôl toriad y Pasg yn destun newid yn
sgil penodi Llywodraeth newydd. |
|
Unrhyw fusnes arall Cofnodion: Cyfnod
4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) Hysbysodd y Trefnydd y Rheolwyr Busnes am fwriad y
Llywodraeth i drefnu trafodion Cyfnod 4 ar y Bil ddydd Mercher 8 Mai. |