Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

3.

Trefn Busnes

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·       Bydd yr Amser Pleidleisio yn digwydd fel yr eitem olaf o fusnes y Cyfarfod Llawn, cyn y Pwyllgor o’r Senedd Gyfan.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 4.45pm

 

Dydd Mercher

 

·       Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 15 munud)

 

·       Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 3.40pm

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 12 Mawrth 2024

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) (60 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Rhaglen Cartrefi Clyd (30 45 munud)

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cronfa Integreiddio Rhanbarthol (30 munud)

·       Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):

o  Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) - cynnig 1

o  Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) - cynnig 2

 

Dydd Mawrth 19 Mawrth 2024

 

·       Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2024 (5 munud)

 

Gofynnodd Heledd Fychan am ddiweddariad ar y cais a wnaed ar 20 Chwefror am ddatganiad llafar ar fuddsoddi mewn addysg a hyfforddi gweithwyr proffesiynol gofal iechyd. Dywedodd y Trefnydd na fyddai modd amserlennu datganiad llafar tan ar ôl Toriad y Pasg.

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: 

 

Dydd Mercher 13 Mawrth 2024 –

·      Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Nawfed Adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 (30 munud)

 

Dydd Mercher 17 Ebrill 2024 -

·      Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Perfformiad Dŵr Cymru Welsh Water (30 munud)

·      Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Ynni niwclear ac economi Cymru (60 munud)

·      Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·      Dadl fer (30 munud)

 

 

3.4

Cynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Cynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 12 Mawrth:

 

Delyth Jewell

NNDM8460 

Cynnig bod y Senedd: 

1.  Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyfer mwy o ddiogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus. 

2.  Yn nodi mai diben y Bil fyddai: 

a) cyflwyno systemau ar gyfer monitro, adrodd ac uwchraddio goleuadau yn rheolaidd ar gyfer yr holl wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys ar fwrdd cerbydau, mewn arosfannau a gorsafoedd, ac ar strydoedd yn union o amgylch gorsafoedd trên a safleoedd bysiau mawr; 

b) adolygu hyfforddiant a gynigir ar hyn o bryd ym maes diogelwch i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth, o'u rhan eu hunain ac eraill; 

c) gwella gweithdrefnau adrodd presennol a datblygu systemau mwy cyson a thryloyw ar gyfer adrodd a chofnodi achosion o gam-drin sy'n effeithio ar bobl sy'n agored i niwed ar drafnidiaeth gyhoeddus; a 

d) asesu'r angen am ddyletswydd statudol ar gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod teithwyr yn cyrraedd pen eu taith, neu fan diogel, ar ôl iddi dywyllu. 

 

3.5

Gweithdrefnau ar gyfer Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur yn amlinellu'r gweithdrefnau ar gyfer trafodion Cyfnod 2 ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a chafodd ei nodi.

 

Cynigiodd y Llywydd y dylid cymryd egwyl o tua 30 munud rhwng diwedd y Cyfarfod Llawn a dechrau trafodion y Pwyllgor, a chytunodd y Rheolwyr Busnes. Cytunodd y Pwyllgor ar amser gorffen bras o 21.00 ar gyfer trafodion nos Fawrth.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfarfod Llawn yn dechrau am 13.00 ddydd Mawrth ac y bydd angen ystyriaeth bellach a oes angen dechrau’r trafodion yn gynharach (am 12.30 neu 13.00) ddydd Mercher, yn dilyn diwedd trafodion heno.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan y Pwyllgor Biliau Diwygio ynghylch amserlen Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor Biliau Diwygio i  amserlen arfaethedig y Llywodraeth ar gyfer y Bil a'r amserlen amgen a gynigiwyd gan y Pwyllgor. Nododd y Dirprwy Lywydd, Darren Millar a Heledd Fychan eu bod yn aelodau o’r Pwyllgor Biliau Diwygio.

Dywedodd y Trefnydd fod angen amserlen arfaethedig y Llywodraeth, sy'n cynnwys amserlen gyflym ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1, er mwyn sicrhau bod y Bil yn cael ei weithredu cyn etholiad 2026 y Senedd.

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio, mynegodd y Dirprwy Lywydd, bryder y Pwyllgor ynghylch yr amserlen arfaethedig a diffyg eglurder ynghylch pam mae angen amserlen gyflym ar gyfer Cyfnod 1. Tynnodd sylw'r Pwyllgor Busnes hefyd at y cyfnod byr o amser a fyddai ar gael i'r Aelodau i gyflwyno gwelliannau i'r Bil yng nghyfnodau 2 a 3 pe bai amserlen arfaethedig y Llywodraeth yn cael ei chytuno.

Mynegodd Heledd Fychan na fyddai Plaid Cymru yn dymuno peryglu'r Bil, ond gofynnodd hefyd am ddarparu esboniad pellach ar gyfer yr amserlen sy'n cael ei chynnig gan y Llywodraeth.

Mynegodd Darren Millar bryder ynghylch y posibilrwydd o achosi niwed i enw da y Senedd os yw'r gwaith craffu yn cael ei gwtogi a galwodd ar y Pwyllgor Busnes i gytuno ar yr amserlen amgen a gynigir gan y Pyllgor Biliau Diwygio.

Mynegodd y Llywydd ei phryder difrifol am y posibilrwydd o gytuno ar gyfnod craffu cyfyngedig ar gyfer y Bil hwn a'r angen i'r Llywodraeth gyflwyno rhesymu ychwanegol. Nododd y materion a'r pryderon a godwyd yn flaenorol gan bwyllgorau'r Senedd mewn perthynas â Biliau eraill sydd wedi bwrw ymlaen ag amserlenni cyflym ar gyfer gwaith craffu.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ofyn am nodyn brys gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys tystiolaeth ynghylch pam mae angen amserlen gyflym ar y Bil ac i ystyried yr amserlen ymhellach, drwy e-bost neu yn y cyfarfod dilynol, pan fydd hynny wedi dod i law.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch ei slot cyfarfod ar 11 Mawrth

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad iddo gwrdd yn gynharach ar 11 Mawrth 2024 er mwyn cymryd tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.