Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

 

·       Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

·       Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU (60 munud) Aildrefnwyd

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) (15 munud) Aildrefnwyd

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc (30 munud) Gohiriwyd

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Y Mis Hanes LHDTC+ Cynllun Gweithredu (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd (30 munud) Gohiriwyd tan 12 Mawrth

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.00pm

 

Dydd Mercher

 

Cafodd y Pwyllgor Busnes wybodaeth friffio ar drefniadau diogelwch yn ymwneud â'r brotest a ddisgwylir ddydd Mercher a'r amharu posibl, gan gynnwys teithio. Cofrestrodd y Trefnydd a Jane Dodds eu pryder bod busnes a digwyddiadau'r Senedd yn parhau wyneb yn wyneb o ystyried maint y brotest a ddisgwylir a chodwyd y posibilrwydd o gadw presenoldeb ar Ystad y Senedd ar ei isafswm, a thrafodion yn cael eu cynnal ar-lein pe bai angen. 

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 12 Mawrth 2024

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd (30 munud)

·       Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (5 munud)

·       Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 (5 munud)

·       Cynnig i amrywio'r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Seilwaith (Cymru) (5 munud)

·       Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2023-24 (30 munud) gohiriwyd tan 13 Mawrth

 

Dydd Mercher 13 Mawrth 2024

 

·       Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) gohiriwyd tan 20 Mawrth 2024

·       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud) - wedi dwyn ymlaen o 20 Mawrth 2024

·       Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2023-24 (30 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ohirio Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 20 Mawrth i ddwyn ymlaen y Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg i 13 Mawrth.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: 

 

Dydd Mercher 13 Mawrth 2024 –

·      Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) Symudwyd i 12 Mawrth

Dydd Mercher 20 Mawrth 2024 –

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar Ddeiseb P-06-1367: Dylid ariannu gwaith i symud creigiau chwarel ac adfer tywod a grwynau i Draeth y Gogledd Llandudno
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) (30 munud)
  • Dadl Fer: Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) (30 munud)

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes amserlen y Bil a gynigiwyd gan y Llywodraeth a chytunodd:

 

  • i gyfeirio Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) i’r Pwyllgor Biliau Diwygio er mwyn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil;
  • ymgynghori â'r Pwyllgor Biliau Diwygio ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) a dychwelyd y mater yn y cyfarfod nesaf; a
  • cytunwyd hefyd mewn egwyddor, ac yn amodol ar i'r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, i gyflwyno cynnig ar ddechrau Cyfnod 2 yn gofyn am gytundeb y Senedd i drafodion Cyfnod 2 gael eu cynnal gan Bwyllgor o'r Senedd Gyfan.

 

 

4.2

Amserlenni Cyflym ar gyfer Biliau’r Senedd

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar amserlenni cyflym ar gyfer Biliau'r Senedd. Nododd y Pwyllgor brofiad y ddau Fil a amlinellwyd yn y papur a gofynnodd i swyddogion ddrafftio offeryn gwneud penderfyniadau y gellid ei ddefnyddio i'w gynorthwyo i wneud penderfyniadau yn y dyfodol ar amserlenni Biliau pan fydd amserlen gyflym wedi’i chynnig.

 

Gofynnodd Darren Millar i ystyried faint o amser sydd ar gael i'r Aelodau i baratoi ar gyfer trafodion Cyfnod 2 a Chyfnod 3 ar Filiau yn dilyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno gwelliannau. Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i swyddogion ddarparu nodyn am y materion hyn, i gynnwys profiad diweddar yn ymwneud â’r Bil Seilwaith (Cymru).

 

 

4.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Rhentwyr (Diwygio)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes â’r cais i ddiwygio'r terfyn amser i bwyllgorau adrodd ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhentwyr (Diwygio) i 26 Ebrill 2024.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gofyn am ganiatâd i gynnal cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes â’r cais i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gynnal cyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor ar 14 Mawrth 2024.

 

 

6.

Gwaith Gweithdrefnol

6.1

Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor: Cynigion Manwl

Cofnodion:

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at ystyried a ddylai fwrw ymlaen â thrafod Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor cyn toriad y Pasg, a swyddi gwag posibl cadeiryddion pwyllgorau a allai godi yn sgil y Prif Weinidog newydd yn penodi ei lywodraeth. Cytunodd mwyafrif ar y Pwyllgor Busnes bod angen cyfnod hwy o amser i roi ystyriaeth lawn i'r materion perthnasol.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i fwrw ymlaen â'r drafodaeth fanwl honno dros y misoedd nesaf, gan gydnabod na fyddai unrhyw newidiadau ar waith erbyn i unrhyw swydd wag godi yn dilyn toriad y Pasg.