Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 6.18, ar gais y Llywydd, cafodd
y cyfarfod ei gadeirio gan y Dirprwy Lywydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn: · Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr - flwyddyn yn ddiweddarach (45 munud) · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.10pm Dywedodd y
Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd Pwyllgor y Senedd Gyfan yn
ymgynnull am gyfarfod byr, yn syth ar ôl y Cyfarfod Llawn, i ystyried cynnig i
gytuno ar y Drefn Ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru
(Aelodau ac Etholiadau). Dydd
Mercher · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
27 Chwefror 2024 · · Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Partneriaeth Gymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu LHDTC+ (30 munud) · Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd (30 munud) · Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru (30
munud) Gofynnodd
Heledd Fychan am ddatganiad llafar ar fuddsoddi mewn addysg a hyfforddi
gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a
gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 14 Chwefror.
Dywedodd y Trefnydd y byddai'r Llywodraeth yn ystyried y cais. Gofynnodd
Darren Millar am ddatganiad llafar ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Dywedodd y
Trefnydd na fyddai datganiad llafar yn cael ei drefnu nes bod ymgynghoriad ar y
Cynllun wedi cau ar 7 Mawrth, ac y dylai'r Aelodau annog unrhyw un sydd â
diddordeb yn y ffordd y mae’r Cynllun wedi’i ddylunio achub ar y cyfle i ymateb
i'r ymgynghoriad. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd
Mercher 13 Mawrth 2024 –
|
|
Deddfwriaeth |
|
Ymateb gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch yr amserlenni ar gyfer y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar amserlenni diwygiedig ar gyfer craffu ar y Bil Etholiadau a
Chyrff Etholedig (Cymru) a’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). |
|
Nodyn ar rôl y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papur. |
|
Nodyn ar y broses ar gyfer penodi Cwnsler Cyffredinol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papur. |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a
chytunodd i:
|
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud cais am estyniad i'w cyfarfod ar 26 Chwefror Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y cais i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
gwrdd yn gynharach ar 26 Chwefror. |
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur ar Rannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor a chytunodd i gynnal
trafodaeth bellach yn y cyfarfod nesaf, yn dilyn trafodaethau gyda grwpiau
pleidiau. |