Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

 

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiwylliant a gwerthoedd - y camau nesaf (45 munud)

·       Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (5 munud) Gohiriwyd

·       Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

·       Dadl: Y diwydiant dur yng Nghymru (60 munud)

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.20pm

 

Dydd Mercher

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 20 Chwefror 2024

 

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed (45 munud)

 

Dydd Mawrth 5 Mawrth 2024

 

Pwyllgor o’r Senedd Gyfan

 

  • Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - trafodion Cyfnod 2

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Gan fod y Pwyllgor o’r Senedd Gyfan yn cael ei gynnal ar 6 Mawrth, cytunodd y Pwyllgor i beidio â threfnu unrhyw ddadleuon y diwrnod hwnnw. 

 

Dydd Mawrth 6 Mawrth 2024 –

 

Pwyllgor o’r Senedd Gyfan

 

  • Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - trafodion Cyfnod 2

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlenni ar gyfer Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru).

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor Busnes yn ystyried papur ynghylch yr amserlenni ar gyfer Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). Cytunodd y Pwyllgor i ohirio penderfyniad ar adolygu’r amserlenni ar gyfer y Biliau er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor Busnes hefyd am nodyn ar y trefniadau ar gyfer penodi Cwnsler Cyffredinol unwaith y byddai deiliad presennol y swydd yn peidio â dal ei swydd, yn unol â Rheol Sefydlog 9.8, os enwebir Aelod i’w benodi’n Brif Weinidog Cymru. Byddai’r nodyn hefyd yn ymdrin â chylch gorchwyl a chyfrifoldebau’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad presennol.

 

 

4.2

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud yr hyn a ganlyn:

  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyfiawnder Troseddol a osodwyd ar 29 Ionawr at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 22 Mawrth 2024;
  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhentwyr (Diwygio) a osodwyd ar 30 Ionawr 2024 at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 15 Mawrth 2024;
  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diwygio Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau a osodwyd ar 30 Ionawr 2024 at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 15 Mawrth 2024.