Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 19:15.

 

Gofynnodd Darren Millar a Heledd Fychan am ddatganiad llafar ar Fferm Gilestone yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 29 Ionawr. Nododd y Trefnydd y byddai'r Llywodraeth yn ystyried y cais.

 

Dydd Mercher

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

 

·       Dadl ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar Gysylltiadau Rhyngwladol 2022-23 (60 munud) Gohiriwyd tan 28 Chwefror

·       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru (60 munud) Ail-drefnwyd o 24 Ionawr

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 19:50.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 20 Chwefror 2024

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: System a Siarter Budd-daliadau Cymru (30 munud)

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 28 Chwefror 2024 –

·      Dadl ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar Gysylltiadau Rhyngwladol 2022-23 (60 munud) Ail-drefnwyd o 31 Ionawr

·      Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·      Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·      Dadl Fer: Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): dyrannu slotiau cyfarfod

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddyraniad slotiau cyfarfod i Bwyllgor o’r Senedd Gyfan ar gyfer trafodion Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), pe bai’r cynigion perthnasol yn cael eu cytuno ar 30 a 31 Ionawr.

Yn dilyn trafodaeth, ar ôl i Darren Millar fynegi pryderon ynghylch cynnal trafodion Cyfnod 2 ar yr un diwrnod â’r ddadl ar Gyllideb Derfynol 2024-25, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddyrannu slot i Bwyllgor o’r Senedd Gyfan ar ôl i’r Cyfarfod Llawn ddod i ben ar 5 Mawrth a 6 Mawrth ar gyfer trafodion Cyfnod 2 y Bil.

Nododd y Trefnydd y byddai busnes y Llywodraeth ar 5 Mawrth yn cael ei gyfyngu at yr eitemau hanfodol.

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor ar y camau a ganlyn:

·       y byddai busnes anllywodraethol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 6 Mawrth yn cael ei gyfyngu at Gwestiynau i Gomisiwn y Senedd, Cwestiynau Amserol, Datganiadau 90 Eiliad a'r Ddadl Fer;

·       i ystyried yn nes at yr amser a ddylai’r Cyfarfod Llawn ddechrau’n gynharach ar naill ai 5 neu 6 Mawrth, neu’r ddau;

·       dyrannu slot cyfarfod i Bwyllgor o'r Senedd Gyfan yn syth ar ôl y Cyfarfod Llawn ar 20 Chwefror at ddibenion trafod unrhyw gynnig a gyflwynir gan y Llywydd fel Cadeirydd y Pwyllgor o'r Senedd Gyfan mewn cysylltiad â threfn ystyried trafodion Cyfnod 2 y Bil.

 

 

 

4.2

Y wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth Traws-Môr Tawel) at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau o 15 Mawrth 2024 ar gyfer cyflwyno adroddiad.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud cais am slot ar gyfer dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i’r cais i gynnal dadl ar ddeiseb P-06-1367 Dylid ariannu gwaith i symud creigiau chwarel ac adfer tywod a grwynau i Lannau Gogledd Llandudno, ac i'r ysgrifenyddiaeth gytuno ar ddyddiad addas ar gyfer y ddadl hon gyda'r Pwyllgor Deisebau.