Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan, roedd Llyr Gruffydd yn bresennol ar ei rhan.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

 

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi: Tata Steel (45 munud)

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi Blaenau’r Cymoedd (30 munud) Gohiriwyd

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm.

 

Dydd Mercher

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes nad yw'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gallu ymateb i ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid llywodraeth leol gan y bydd yn teithio i gyfarfod rhyngweinidogol yn yr Alban. Bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip yn ymateb i'r ddadl yn ei lle. 

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 30 Ionawr 2024

 

·       Datganiad gan y Prif Weinidog Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (45 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Papur gwyn ar gyfer Bil arfaethedig ar egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu amgylcheddol a thargedau bioamrywiaeth (30 munud)

·       Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024 (5 munud) - gohiriwyd tan 20 Chwefror

 

Dydd Mawrth 6 Chwefror 2024

 

·       Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (5 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 31 Ionawr 2024 -

·       Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog (5 munud)

Dydd Mercher 21 Chwefror 2024 -

·      Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad: Ymchwiliad i Lywodraethiant y DU a’r UE (45 munud)

·      Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·      Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·      Dadl Fer: Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

 

3.4

Cynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl  

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 31 Ionawr: 

 

Mabon ap Gwynfor

NNDM8434

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG, ar ffurf corff rheoleiddio.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) sefydlu corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer GIG Cymru i ddiffinio'r safonau proffesiynol a ddisgwylir gan reolwyr GIG Cymru a bod yn lle i droi ar gyfer y rhai sy'n teimlo nad yw'r safonau hynny wedi cael eu bodloni gan unrhyw reolwr unigol GIG Cymru, a byddai ganddo'r pŵer i rybuddio, cosbi neu dynnu unrhyw reolwr GIG Cymru oddi ar ei gofrestr a gynhelir;

b) diffinio beth yw rheolwr GIG Cymru a chynnal cofrestr o reolwyr GIG Cymru; ac

c) ei gwneud yn ofynnol i holl reolwyr y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r corff rheoleiddio proffesiynol.

 

 

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Llythyr gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch slotiau cyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru i gyfarfod ar 20 Chwefror, 19 Mawrth a dyddiau Mawrth dilynol pan fo angen, cyn cytuno ar slot parhaol ar ddyddiad i ddod.

 

 

5.

Diwygio'r Senedd

5.1

Ystyried argymhellion i'r Pwyllgor Busnes sy'n deillio o adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Biliau Diwygio ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Cofnodion:

Business Committee considered the recommendations made to it by the Reform Bill Committee and agreed its response.

 

6.1

Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Adolygiad cyfyngedig o weithdrefnau Bil Cydgrynhoi

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad drafft sy'n cynnwys cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog sy’n ymwneud â Biliau Cydgrynhoi sy'n deillio o'i adolygiad cyfyngedig o'r gweithdrefnau hynny a chytunodd arnynt. Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno cynnig yn cynnig bod y Senedd yn cytuno ar y newidiadau arfaethedig i’w drafod ddydd Mercher 31 Ionawr.

 

 

7.

Gwaith Gweithdrefnol

7.1

Gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan

 

·       Ymateb gan y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

·       Ymateb gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

·       Ymateb gan Fforwm y Cadeiryddion

·       Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

·       Papur ar y gweithdrefnau sy'n ofynnol er mwyn craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan”

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ymatebion a gafwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Fforwm y Cadeiryddion a'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i gynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i rannu'r ymatebion a dderbyniwyd ac i roi cyfle i'r rhai sydd eisoes wedi darparu gwybodaeth i ddarparu rhagor o fyfyrdodau, cyn dychwelyd at y mater o wneud newidiadau i'r Rheolau Sefydlog mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

 

6.

Y Rheolau Sefydlog