Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan,
roedd Llyr Gruffydd yn bresennol ar ei rhan. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Busnes yr
wythnos hon Dydd Mawrth Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn: ·
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau'r gaeaf mewn gofal iechyd (45 munud) · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 5.20pm. Dydd
Mercher · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth am y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
23 Ionawr 2024 · Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg: Mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad (30 munud) · Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd (30 munud) Dydd Mawrth
30 Ionawr 2024 · Gorchymyn Ystadegau Swyddogol
(Cymru) (Diwygio) 2024 (5 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf: Dydd Mercher 31 Ionawr 2024 · Cynnig o dan Reol Sefydlog
26.17(iii) mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (5 munud) Dydd Mercher 7 Chwefror 2024
|
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y
cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol
i’w drafod ar 24 Ionawr: Mabon ap Gwynfor NNDM8448 Cynnig bod
y Senedd: 1. Yn
nodi: a) bod
darparwyr gofal hosbis elusennol yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu gofal
a chymorth hanfodol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan salwch angheuol ledled
Cymru; b) bod y
sector hosbis elusennol yn darparu gofal i fwy na 20,000 o bobl bob blwyddyn,
gyda'u gwasanaethau yn cefnogi pobl sy'n marw i aros yn eu cartrefi eu hunain a
lleihau derbyniadau i'r ysbyty, gan sicrhau canlyniadau gwell i unigolion a'r
GIG; c) bod
costau cynyddol o ran ynni a staff, pwysau ar y gweithlu, a galw cynyddol am
ofal cymhleth yn fygythiad dirfodol i gynaliadwyedd y sector; d) bod 90 y
cant o hosbisau yn cyllidebu ar gyfer diffyg yn 2023/24 ac yn defnyddio
cronfeydd wrth gefn i gwrdd â'r diffyg; a e) y bydd y
galw a'r angen am ofal lliniarol yn tyfu'n sylweddol wrth i'r boblogaeth
heneiddio ac mae mwy o bobl yn byw yn hirach gyda chyflyrau cronig lluosog. 2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a) ymrwymo
i weithio gyda'r sector i fynd i'r afael â'r heriau cyllido uniongyrchol, gan
gynnwys sicrhau cynnig cyflog teg i weithlu hosbisau, sy'n cyfateb i'r cynnydd
yn yr Agenda ar gyfer Newid, fel bod cydraddoldeb â chydweithwyr yn y GIG; b) datblygu
ateb ariannu cynaliadwy hirdymor mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys
fformiwla ariannu genedlaethol newydd, cynllun gweithlu, a manyleb gwasanaeth
gofal lliniarol a diwedd oes; ac c) ymestyn adolygiad cyllid gofal
diwedd oes Llywodraeth Cymru, y disgwylir iddo ddod i ben ym mis Ionawr 2024,
os nad yw hyn yn ymarferol o fewn yr amserlen hon. |
|
Rhaglen waith weithdrefnol |
|
Papur ar Raglen Waith Weithdrefnol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar amserlennu
arfaethedig ei raglen waith gweithdrefnol, a chytunodd arno. |