Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan.
Roedd Rhun ap Iorwerth yn bresennol yn ei lle. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiadau a ganlyn: · Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau
Cymdeithasol: Adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiwylliant a
gwerthoedd (30 munud) · Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd (30 munud) · Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y
Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: Cofrestru a thrwyddedu statudol ar gyfer
llety ymwelwyr (30 munud) · Ni fydd cyfnod pleidleisio. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 5.45pm. Dydd
Mercher · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth am y tair wythnos nesaf: Dydd
Mawrth, 16 Ionawr 2024 · Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau dwysáu ac ymyrryd (30 munud) · Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol: Ystadau Cymru (30 munud) · Rheoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Diwygio)
(Cymru) 2024 (5 munud) · Dadl: Ffyniant Bro (60 munud) Dydd Mawrth
23 Ionawr 2024 · Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Strategaeth Tlodi Plant Cymru (45
munud) · Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Economi Blaenau’r Cymoedd (30 munud) · Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol: Gweithredu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a
Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (30 munud) · Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Adnewyddu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda
Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop (30 munud) · Rheoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru)
2024 (15 munud) |
|
Amserlen y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf: Dydd Mercher 31 Ionawr 2024 -
|
|
Deddfwriaeth |
|
Amserlen Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes ar amserlen ddiwygiedig ar gyfer Bil Diwygio’r Senedd, gan nodi’r terfyn
amser newydd ar gyfer trafodion Cyfnod 2, sef 15 Mawrth 2024. Hefyd
cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno cynnig yng Nghyfnod 2, o dan Reol Sefydlog
26.17(iii), i ofyn am gytundeb y Senedd i drafodion Cyfnod 2 ar y Bil gael eu
hystyried gan Bwyllgor o'r Senedd gyfan. |
|
Diweddariad ar gyfer Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i wneud yr hyn a ganlyn:
|
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am slot ar gyfer dadl Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gais y Pwyllgor Deisebau i gynnal dadl ar ddeisebau P-06-1359
a P-06-1362 ac i drefnu’r ddadl ar gyfer 31 Ionawr 2024. |