Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video conference via Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar. Roedd Russell George yn bresennol yn ei le.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Newydd-anedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar 'Mwy na geiriau 2022-27' (30 munud) Tynnwyd yn ôl
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a chyhoeddi datganiad blaenoriaethau Gweinidogion Cymru - (30 munud) Tynnwyd yn ôl
  • Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 (15 10 munud)

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.25pm.

 

Dydd Mercher

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig bod y Senedd yn ethol Samuel Kurtz yn aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn lle James Evans. Tynnodd y Llywydd sylw at hyn a’r newidiadau a ganlyn i gyfarfod dydd Mercher: 

 

·       Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 15 munud)

·       Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.25pm.

 

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes nad oes unrhyw newidiadau i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 24 Ionawr 2024 -

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) 
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru (60 munud) 
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 
  • Dadl Fer: Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru) (30 munud) 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar gyfer Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:

 

  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth Traws-Môr Tawel) at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, i graffu arno, gyda dyddiad cau i gyflwyno adroddiad ar 15 Mawrth 2024;
  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 2 Chwefror 2024.

 

5.

Gwaith Gweithdrefnol

5.1

Adolygiad Cyfyngedig o Reol Sefydlog 26C - Deddfau Cydgrynhoi'r Senedd

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur yn ymwneud ag adolygiad cyfyngedig o Reol Sefydlog 26C (Deddfau Cydgrynhoi'r Senedd), yn dilyn gohebiaeth a ddaeth i law gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar 3 Hydref a gododd rai materion yn deillio o'i ystyriaeth o Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Nododd y Pwyllgor fod ei Raglen Waith Weithdrefnol yn cynnwys adolygiad llawn o Reol Sefydlog 26C sydd wedi’i drefnu ar ôl i'r Bil Cydgrynhoi nesaf gael ei ystyried gan y Senedd.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:

  • cynnig bod y Senedd yn diwygio'r Rheolau Sefydlog i egluro pryd y caiff Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ei chwblhau ac ystyried adroddiad drafft ar y newidiadau arfaethedig yn y flwyddyn newydd;
  • ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i egluro, o ystyried natur gyfyngedig yr adolygiad hwn, ei fod yn bwriadu ystyried y materion canlynol fel rhan o'r adolygiad llawn o Reol Sefydlog 26C:

-   manteision ac anfanteision diwygio'r Rheolau Sefydlog sy'n amlinellu sut mae Bil Cydgrynhoi yn mynd rhagddo o Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor i Ystyriaeth Fanwl y Senedd / Cyfnod Terfynol ; ac

-   ymestyn yr amser rhwng adroddiad y pwyllgor cyfrifol ac Ystyriaeth Fanwl y Senedd yn gallu dechrau/bod ystyried cynnig Cyfnod Terfynol yn bosibl, er mwyn caniatau rhagor o amser i'r Aelodau ystyried adroddiad ac argymhelliad y pwyllgor cyfrifol a gweithredu arnynt.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes, pe pai sefyllfa’n codi yn y cyfamser lle nad yw pwyllgor yn gallu dod i gytundeb ar ganlyniad ei Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, a bod pleidlais gyfartal yn digwydd, bydd cadeirydd y pwyllgor cyfrifol yn cael cyngor gweithdrefnol gan y clerc yn unol â'r cynseiliau a'r egwyddorion sylfaenol a gymhwysir o ran defnyddio pleidlais fwrw.

 

5.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Gwrandawiadau Ymchwiliad Covid y DU

Rhoddodd y Trefnydd wybod i Reolwyr Busnes y gallai gwrandawiadau Ymchwiliad Covid y DU yng Nghymru, a gynhelir rhwng 27 Chwefror a 14 Mawrth 2024, effeithio ar amserlenni rhai Gweinidogion yn ystod tymor y gwanwyn.