Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar,
roedd Russell George yn bresennol yn ei le. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan
Jane Dodds a’r Dirprwy Lywydd |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm. Dydd
Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
12 Rhagfyr 2023 ·
Cynnig
Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau
Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol)
2023 (15 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd Mercher 17 Ionawr 2024 -
|
|
Cais i amserlennu dadl ar Gynnig Heb Ddyddiad Trafod 8411 Cofnodion: Datganodd Lesley Griffiths fuddiant
fel Aelod o'r Senedd dros Wrecsam. Nododd y
Pwyllgor Busnes gais gan Llyr Gruffydd AS a Sam Rowlands AS i amser gael ei
ddyrannu i ddadl ar NNDM8411 yn ymwneud â Chynllun Datblygu Lleol Cyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd ohebiaeth gan y
Gweinidog Newid Hinsawdd. Nododd y Llywydd ei bod wedi gofyn am gyngor ar
oblygiadau achosion cyfreithiol cyfredol ac y byddai angen ystyried y cyngor
hwn cyn unrhyw benderfyniad ynghylch amserlennu dadl. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i ddychwelyd at y mater pan fyddai cyngor pellach wedi dod i law. |
|
Cynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i
amserlennu’r cynnig canlynol ar 13 Rhagfyr 2023: Jack
Sargeant NNDM8419 Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion yng Nghymru ymhellach. 2. Yn
nodi mai diben y Bil fyddai: a) gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau
cyhoeddus i ddefnyddio casglwyr dyledion sydd wedi cofrestru i god ymddygiad
sy'n amddiffyn pobl fregus mewn argyfwng costau byw yn unig; b)
cyflwyno cod ymddygiad Cymru gyfan ar gyfer yr holl asiantau casglu dyledion
sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru; ac c)
grymuso awdurdodau safonau masnach lleol ymhellach i weithredu yn erbyn
asiantau sy'n camarwain preswylwyr ynghylch eu pwerau a hawliau preswylwyr. A'r
cynnig canlynol ar gyfer 17 Ionawr 2024: Delyth
Jewell NNDM8370 Cynnig bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc. 2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a) diwygio Deddf Cwricwlwm ac Asesu
(Cymru) 2021 i sicrhau bod y cwricwlwm ysgol yn cynnwys dealltwriaeth o
ddifrifoldeb a brys yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol fel cysyniad
allweddol ar draws pob maes dysgu a phrofiad; b) sicrhau bod y cwricwlwm yn
adlewyrchu brys ac anghenraid mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a diogelu'r
amgylchedd ecolegol; c) sicrhau nad yw addysgu o'r fath
wedi'i gyfyngu i bynciau traddodiadol sy'n cwmpasu'r maes hwn, ond wedi'i
wreiddio ar draws pob maes dysgu a phrofiad; d) cydnabod pwysigrwydd dysgu
isganfyddol a hyrwyddo amgylchedd cynaliadwy lle y gall dysgu ddigwydd; ac e) dechrau
mynd i'r afael â phryder hinsawdd ymhlith plant a phobl ifanc. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch slotiau cyfarfod Cofnodion: Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes y
cais i’r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 gwrdd ar 30 Ionawr a 6
Chwefror 2024. |
|
Amserlen y Senedd |
|
Dyddiadau Toriadau Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y
dyddiadau ar gyfer toriad Hanner Tymor y Sulgwyn a Thoriad yr Haf 2024, a
chytunodd arnynt, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer Hanner Tymor yr
Hydref a Thoriad y Nadolig 2024. |
|
Trefniadau Cyflwyno |
|
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig Cofnodion: Cytunodd
y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn,
Cwestiynau Ysgrifenedig a gwelliannau i'r Bil Seilwaith (Cymru), pe bai'r egwyddorion
cyffredinol yn cael eu cytuno, yn ystod toriad y Nadolig. |
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
Diwygio'r Senedd: Parodrwydd gweithdrefnol Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor Busnes bapur ar barodrwydd gweithdrefnol ar gyfer diwygio'r Senedd a
chytunodd mewn egwyddor i ddechrau ystyried meysydd o ddiwygio gweithdrefnol yn
ystod hydref 2024. Cytunodd
y Pwyllgor Busnes hefyd i archwilio'r posibilrwydd o gynnal sesiynau gweithdy
gydag Aelodau sydd â diddordeb yn ystod Gwanwyn 2024, er mwyn llywio datblygiad
y gwaith hwn. |