Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm.

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.40pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2023

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Newid yn yr Hinsawdd (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar 'Mwy na geiriau 2022-27' (30 munud)

·       Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 (10 5 munud)

·       Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2023 (15 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 13 Rhagfyr 2023

  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn gofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru (60 munud) Gohiriwyd
  • Dadl Fer: Peter Fox (Mynwy) (30 munud) Tynnwyd yn ôl

 

Trefnwyd y busnes a ganlyn:

Dydd Mercher 10 Ionawr 2024 -

  • Dadl ar adroddiad Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl fer (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad graffu arno, gyda dyddiad terfynol o 1 Mawrth 2024 i gyflwyno adroddiad.

 

 

4.2

Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio ynghylch amserlen Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ymateb gan y Pwyllgor Biliau Diwygio a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol).

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Llywydd yn gwneud cais am slot cyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan Bwyllgor y Llywydd iddo allu cwrdd brynhawn dydd Llun 22 Ionawr 2024. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai'r Pwyllgor barhau i ofyn am slotiau cyfarfod amgen pan fydd angen iddo gwrdd y tu allan i'w slot cyfarfod penodedig.