Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o
fynd y tu hwnt i 6.30pm. Dydd
Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth am y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
12 Rhagfyr 2023 · Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Newid yn yr Hinsawdd (30 munud) · Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol: Diweddariad ar 'Mwy na geiriau 2022-27' (30 munud) · Rheoliadau Iechyd Planhigion etc.
(Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 (10 5 munud) · Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir
(Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2023 (15 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos
nesaf: Dydd Mercher 13 Rhagfyr 2023
Trefnwyd y busnes a ganlyn: Dydd Mercher 10 Ionawr 2024 -
|
|
Deddfwriaeth |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig i’r
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad graffu arno, gyda dyddiad terfynol o 1 Mawrth 2024
i gyflwyno adroddiad. |
|
Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio ynghylch amserlen Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor Busnes ymateb gan y Pwyllgor Biliau Diwygio a chytunodd ar yr amserlen
arfaethedig ar gyfer Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Llywydd yn gwneud cais am slot cyfarfod Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais
gan Bwyllgor y Llywydd iddo allu cwrdd brynhawn dydd Llun 22 Ionawr 2024. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y
dylai'r Pwyllgor barhau i ofyn am slotiau cyfarfod amgen pan fydd angen iddo
gwrdd y tu allan i'w slot cyfarfod penodedig. |