Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video confrence via Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·       Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn trafodion Cyfnod 3.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.25pm.

 

Cadarnhaodd y Llywydd na fydd egwyl cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023

 

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cenhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu ar HIV - datganiad cynnydd blynyddol (30 munud) I'w gyhoeddi fel Datganiad Ysgrifenedig

 

Dydd Mawrth 5 Rhagfyr 2023

 

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi: Yr Economi Sylfaenol (30 munud) - aildrefnwyd i eitem 3

·       Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi'r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023 (5 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn bwriadu ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i ofyn am estyniad ar gyfer ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor ar weithlu'r diwydiannau creadigol, ac a allai'r ddadl a drefnwyd ar gyfer 13 Rhagfyr gael ei gohirio felly tan y flwyddyn newydd.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i aros am farn y Pwyllgor cyn aildrefnu busnes. Felly, cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 13 Rhagfyr 2023 -

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl fer: Peter Fox (Mynwy) (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch amserlen y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru).

 

 

5.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Cwestiynau’r llefarwyr

 

Gwnaeth y Llywydd atgoffa’r Rheolwyr Busnes o’r elfen o’r canllawiau ynghylch Cwestiynau’r Llefarwyr sy'n nodi y disgwylir i lefarwyr ddefnyddio eu cwestiynau i ddilyn thema eang, yn dilyn rhai enghreifftiau diweddar lle mae'r cwestiynau a ofynnwyd wedi ymdrin â sawl pwnc ar wahân.

 

Cynigion heb ddyddiad trafod

 

Cododd Heledd Fychan Gynigion Heb Ddyddiad Trafod a'r mecanweithiau posibl ar gyfer eu trafod yn y Cyfarfod Llawn.