Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gofal Sylfaenol (30 mun) Tynnwyd yn ôl   
  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud) 
  • Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 (15 munud) 

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. 

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.40pm.

 

Gofynnodd Heledd Fychan a fyddai'r Llywodraeth yn gwneud datganiad ar gau rhan o’r A470 yn Nhalerddig ar hyn o bryd. Rhoddodd y Trefnydd wybod i'r Rheolwyr Busnes na fyddai datganiad yn cael ei gyflwyno heddiw. 

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023 –

 

·       Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)

o    Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023

o    Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023

o    Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffosydd (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

·       Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 (5 munud)

·       Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023 (15 munud)

·       Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (15 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2023 - 

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Mark Isherwood (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) 
  • Dadl fer: Heledd Fychan (Canol De Cymru) (30 munud) 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch amserlen y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru).

 

 

4.2

Amserlen ar gyfer Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Biliau Diwygio er mwyn ystyried yr egwyddorion cyffredinol a gohiriodd benderfyniad ar amserlen y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor hwnnw, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

4.3

Amserlen ar gyfer y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn ystyried yr egwyddorion cyffredinol a gohiriodd benderfyniad ar amserlen y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor hwnnw, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

5.

Gwaith Gweithdrefnol

5.1

Gweithdrefnau sy'n ofynnol er mwyn craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan

Cofnodion:

Yn dilyn argymhellion a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, trafododd y Pwyllgor Busnes gynigion ar gyfer:

  • diwygio'r Rheolau Sefydlog i sicrhau bod dogfennau sy'n cyd-fynd â Biliau ac Is-ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn cynnwys asesiad o effaith Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020;
  • Rheol Sefydlog newydd a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru hysbysu’r Senedd am effaith deddfwriaeth mewn rhannau eraill o'r DU a allai, yn rhinwedd y Ddeddf Marchnad Fewnol, effeithio ar werthu nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru; a
  • hysbysu am effaith fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan ar ddeddfwriaeth y Senedd.

 

Dywedodd y Trefnydd nad yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y cynigion yn angenrheidiol ar y sail nad yw'n ystyried bod Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn cael effaith ar ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ofyn am farn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Fforwm y Cadeiryddion am y cynigion, gyda’r bwriad o ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.