Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds a David Rees

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau (30 munud) I'w gyhoeddi fel Datganiad Ysgrifenedig

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu Dementia  (30 munud) - Gohiriwyd

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi - Parthau Buddsoddi (30 munud)

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cydnabod y cyfraniad y mae digwyddiadau yn ei wneud i Gymru (30 munud) - Gohiriwyd

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi - Tata Steel (30 munud)

·       Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

·       Dadl: Cofio (60 munud)

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. 

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.05pm.

 

Gofynnodd Heledd Fychan pryd y bydd y datganiadau llafar gohiriedig ar y 'Cynllun Gweithredu Dementia' a'r 'cyfraniad y mae digwyddiadau yn ei wneud i Gymru' yn digwydd. Cadarnhaodd y Trefnydd y byddan nhw'n cael eu haildrefnu yn y flwyddyn newydd.

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2023

 

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi Cymoedd y Gogledd (30 munud) - gohiriwyd

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Hawliau Plant (30 munud) Symudwyd ymlaen o 21 Tachwedd

·       Dadl: Cyfnod 4 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (15 munud)

 

Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau (30 munud) - gohiriwyd tan 28 Tachwedd

·       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diwygio'r Flwyddyn Ysgol (30 munud)

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Hawliau Plant (30 munud) - symudwyd ymlaen i 14 Tachwedd

·       Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 (10 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 22 Tachwedd 2023 -

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Mark Isherwood (60 munud) Gohiriwyd tan 6 Rhagfyr
  • Dadl ar Ddeiseb P-06-1356: Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477 (30 munud)

 

Dydd Mercher 29 Tachwedd 2023 -

 

  • Datganiad gan Sam Rowlands: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod - Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: Archwilio hen berthynas mewn oes newydd (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Gweithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd 2022-23 (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) (30 munud)

 

 

 

4.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Araith y Brenin

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes fod y Llywodraeth yn anelu at gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn cynnwys dadansoddiad cynnar o'r eitemau y disgwylir iddynt fod o ddiddordeb i'r Senedd cyn gynted â phosibl yn dilyn Araith y Brenin heddiw.

 

Cyhoeddi Cwestiynau Brys ac Amserol

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y gwaith datblygu angenrheidiol bellach wedi'i gwblhau ac y bydd yr holl Gwestiynau Brys ac Amserol, o'r wythnos hon ymlaen, yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cofnod erbyn diwedd yr wythnos y cawsant eu hystyried.

 

Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa eu grwpiau bod y canllawiau diweddaraf ar y Modd Priodol o gynnal Busnes y Senedd, gan gynnwys mewn perthynas â Chwestiynau Amserol, wedi'u cyhoeddi a'u dosbarthu i'r Aelodau ar 20 Hydref.