Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Roedd Russell George yn bresennol, yn dirprwyo ar ran Darren Millar. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:

 

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr (30 munud) - Gohiriwyd tan 12 Rhagfyr

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. 

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.40pm.

 

Gofynnodd Russell George am ddatganiad llafar gan y Llywodraeth heddiw am y llifogydd a welwyd mewn rhannau o Gymru dros y penwythnos. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n rhoi ystyriaeth i'r mater. 

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

 

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2023

·       Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Sicrhau Treth Gyngor Decach (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Anghenion Seilwaith Trosglwyddo Trydan Cymru ar gyfer Sero Net (30 munud)

·       Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 (15 munud)

·       Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau 2023 (15 munud)

·       Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (15 munud)

 

Rhoddodd y Trefnydd ddiweddariad i’r Pwyllgor Busnes ar ymdrechion i liniaru'r amser gorffen hwyr arfaethedig i'r Cyfarfod Llawn ar 21 Tachwedd. Nododd y Trefnydd y gallai newidiadau pellach ddod ac y bydd yn rhoi diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf.

 

3.3

Amserlen y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

Dydd Mercher 22 Tachwedd 2023 -

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Mark Isherwood (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) (30 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai er mwyn trafod yr egwyddorion cyffredinol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i ohirio penderfyniad ar yr amserlen ar gyfer y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.  

 

5.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Y Bil 'Cwotâu Rhywedd'

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes bod y Llywodraeth, yn amodol ar benderfyniad y Llywydd, yn bwriadu cyflwyno'r Bil Cwotâu Rhywedd (Cymru) ar 4 Rhagfyr 2023.

 

Cwestiynau Arweinwyr a Llefarwyr Grwpiau

Gofynnodd Russell George a yw'r Llywydd yn disgwyl i lefarwyr ac arweinwyr ddefnyddio eu cwestiynau i weinidogion i ddilyn thema eang. Cadarnhaodd y Llywydd fod y Canllawiau ar y modd Priodol o Gynnal Busnes y Senedd yn nodi bod hyn yn ddisgwyliad o ran cwestiynau llefarwyr ond nid cwestiynau arweinwyr