Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r pwyllgor. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal
fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.45pm. Dydd
Mercher
Gofynnodd
Heledd Fychan a oedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddatganiad ynghylch
adroddiadau ar ffigyrau amseroedd aros damweiniau ac achosion brys, yn dilyn
pryderon a godwyd gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Nododd y Trefnydd fod
swyddogion yn ystyried yr honiadau a wnaed ac y byddai'n trafod y mater
ymhellach gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y
newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf. Dydd Mawrth 24 Hydref 2023 ·
Datganiad
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canllawiau Presenoldeb (30 munud) · Gorchymyn Deddf Diogelu'r
Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 1) 2023 (5
munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd Mercher 15 Tachwedd 2023 -
|
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion
arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod
ar 25 Hydref: Alun Davies NNDM8381 Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod yr Holodomor yn
drosedd a bennwyd ymlaen llaw, a gyflawnwyd ac a arweiniwyd gan Stalin a'r Llywodraeth
Sofietaidd yn erbyn pobl Wcráin. 2. Yn ystyried bod yr Holodomor yn
weithred o hil-laddiad. 3. Yn nodi rôl hollbwysig y
newyddiadurwr o Gymru, Gareth Jones, wrth ddod â chreulondeb yr Holodomor i
sylw'r byd. 4. Yn parhau i sefyll gyda phobl
Wcráin wrth iddynt wynebu rhyfel anghyfreithlon Putin. A'r cynnig canlynol ar gyfer
dyddiad i'w gadarnhau ym mis Tachwedd: Mark Isherwood NNDM8385 Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod mis Tachwedd yn Fis
Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas, ac mai 16 Tachwedd 2023 yw Diwrnod Byd-eang
Canser y Pancreas; b) bod y cyfraddau goroesi yng
Nghymru a'r DU yn dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â llawer o Ewrop a'r
byd; c) bod canser y pancreas yn anodd
ei ganfod a bod diagnosis yn cymryd gormod o amser gyda phrosesau araf a
phrofion niferus yn gadael pobl yn y tywyllwch; d) ar ôl canfod y canser, mae pobl
yn wynebu rhwystrau enfawr o ran cael y wybodaeth a'r gofal sydd eu hangen
arnynt i fod yn ddigon da i gael triniaeth, gyda llawer o bobl yn teimlo eu bod
yn cael eu gadael heb unrhyw gynllun cymorth ar waith, a heb help i reoli
symptomau; ac e) ar ôl cael diagnosis, dim ond 3
o bob 10 o bobl sy'n cael unrhyw driniaeth, y gyfran isaf o bob math o ganser,
a bod hanner y bobl yn marw o fewn mis i'r diagnosis. 2. Yn deall bod angen i bobl sydd â
chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir drwy gydol eu
diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys. 3. Yn cefnogi ymdrechion Pancreatic
Cancer UK i sicrhau bod llwybr o'r fath yn cael ei weithredu. 4. Yn canmol yr holl elusennau a
sefydliadau ymgyrchu a'u cefnogwyr ymroddedig am eu hymdrechion diflino i godi
ymwybyddiaeth o ganser y pancreas, ac yn dymuno pob llwyddiant i bawb sy'n
ymwneud â Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas yn eu hymdrechion. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn gwneud cais i Aelodau'r Pwyllgor gael ymgymryd â busnes y pwyllgor yng Nghaeredin Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes â chais
y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i’w Aelodau gael eu hesgusodi
o’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 22 Tachwedd 2023 er mwyn ymgymryd â busnes y
Pwyllgor yng Nghaeredin. Cofrestrodd Jane Dodds ei phryder
gyda phwyllgorau yn cymryd hediadau mewnol yn sgil yr argyfwng hinsawdd. |
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
Newidiadau i'r Canllawiau ar Gwestiynau Amserol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau
arfaethedig i'r canllawiau ar Gwestiynau Amserol, yn ymwneud â'r broses
gyhoeddi, darparu gwybodaeth ategol gan Aelodau a'r nifer uchaf o Gwestiynau
Amserol a fydd fel arfer yn cael eu derbyn ym mhob sesiwn, a chytunodd arnynt. |
|
Papur i'w Nodi: Terfynau amser ar atebion gweinidogol Cofnodion: Nododd
y Pwyllgor Busnes bapur ar gyflwyno terfynau amser ar atebion gweinidogol yn Senedd yr Alban a chytunodd i
ddychwelyd at drafodaeth bellach ar y pwnc hwn unwaith y bydd rhagor o
wybodaeth ar gael am effaith y newid yn yr Alban. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd sylw at yr amser gorffen hwyr a
ragwelir ar gyfer trafodion dydd Mawrth 21 Tachwedd. Trafododd y Pwyllgor
Busnes nifer o opsiynau posibl ar gyfer lliniaru hyn a chytunodd y Trefnydd i
ystyried ymhellach cyn cynnig busnes y llywodraeth ar gyfer y dyddiad hwnnw yn
y cyfarfod canlynol. |