Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth · Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn
trafodion Cyfnod 3. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.15pm. Rhoddodd y
Llywydd wybod i'r Pwyllgor Busnes am ei bwriad i wneud datganiad byr a gwahodd
y Senedd i gynnal eiliad o fyfyrio dros y rhai y mae’r gwrthdaro yn Israel a
Phalesteina wedi effeithio arnynt. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r
Llywydd hefyd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i wneud datganiadau byr. Dydd
Mercher Ar gais y
Llywodraeth, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid aildrefnu dadleuon y
gwrthbleidiau i hwyluso'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i
ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd meddwl, fel y nodir isod:
Gofynnodd y
Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa aelodau eu grwpiau na ddylent gyrraedd yn
hwyr ar gyfer eitemau y maent am gyfrannu iddynt a dywedodd ei bod hi a'r
Dirprwy Lywydd yn bwriadu cymryd agwedd gadarn at beidio â galw Aelodau mewn
amgylchiadau o'r fath yn y dyfodol. Gofynnodd y Llywydd hefyd i’r Rheolwyr
Busnes atgoffa Aelodau o'r disgwyliad nad ydynt yn gadael y Siambr yn ystod
eitemau y maent wedi cyfrannu iddynt. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes nad oes
unrhyw newidiadau i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd Mercher 8 Tachwedd 2023 -
|
|
Deddfwriaeth |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio i’r Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno,
gyda dyddiad cau i gyflwyno adroddiad ar 16 Hydref; |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 5) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio. Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes nad yw'r Pwyllgor Llywodraeth
Leol a Thai yn bwriadu adrodd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio gan fod y gwelliannau a gaiff eu
cwmpasu gan y Memorandwm hwnnw y tu allan i gylch gwaith y Pwyllgor. Am yr un rheswm, cytunodd y Pwyllgor Busnes i
beidio â chyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif 5) i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a
Thai. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch ei gyfarfod ar 4 Rhagfyr 2023 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i’r cais i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
gwrdd yn gynharach na'i amser cyfarfod a drefnwyd ar 4 Rhagfyr, er mwyn hwyluso
sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip. |