Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.15pm.

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 10 Hydref 2023

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru (45 munud)

 

Dydd Mawrth 17 Hydref 2023

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2023-24 (60 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau (30 munud) - gohiriwyd

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi: Gwerth Cymdeithasol a Llesiant Economaidd (30 munud) - gohiriwyd

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 25 Hydref 2023 –

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Huw Irranca–Davies (Ogwr) (30 munud)

 

 

3.4

Cynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 11 Hydref:

 

Peredur Owen Griffiths

NNDM8368

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) hyrwyddo diogelwch cymunedol yn dilyn nifer cynyddol o ymosodiadau difrifol gan gŵn ledled Cymru gan gynnwys rhai marwolaethau trasig;

b) cyflwyno canllawiau a rheoliadau i unrhyw un sy'n dymuno bod yn berchen ar fridiau cŵn penodol, lle mae'n rhaid i berchnogion gyflawni meini prawf penodol i fod yn berchen ar gi a allai fod yn beryglus;

c) ymgynghori â rhanddeiliaid i sefydlu diffiniad o gi a allai fod yn beryglus;

d) gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu partneriaethau i weinyddu'r rheoliadau a chyflawni dull gweithredu cyson ar draws Cymru; ac

e) hyrwyddo mentrau lleol a chenedlaethol gyda'r nod o wella lles anifeiliaid, gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd ac addysgu'r cyhoedd ynghylch perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. 

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 15 Tachwedd: 

 

Jenny Rathbone

NNDM8366

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n atal gwerthu e-sigaréts untro.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

(a) atal e-sigaréts untro rhag cael eu gwerthu;

b) cyflawni cyfrifoldebau byd-eang Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol;

c) mynd i'r afael â'r ffaith bod e-sigaréts untro yn berygl i iechyd y cyhoedd;

d) diogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag problemau iechyd gan gynnwys niwed i’r ysgyfaint; ac

e)  rhoi’r gorau i ddefnyddio lithiwm mewn cynhyrchion untro.

 

 

4.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr amserlen ar gyfer cyllideb 2024-25

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor Cyllid a chytunodd i adolygu'r amserlen ar gyfer craffu ar Gyllideb Ddrafft 2024-25 fel y cynigiwyd gan Lywodraeth Cymru. Nododd y Pwyllgor hefyd fod y Pwyllgor Cyllid, o ganlyniad, yn bwriadu cwrdd yn ystod y toriad ddydd Mercher 20 Rhagfyr i ddechrau ei waith craffu ar y Gyllideb Ddrafft.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gwneud cais i Aelodau’r Pwyllgor ymgymryd â busnes y Pwyllgor ym Mrwsel

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais, a chytunodd i gais Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gael eu hesgusodi o’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Tachwedd 2023 er mwyn ymgymryd â busnes y Pwyllgor ym Mrwsel.

 

 

6.

Gwaith Gweithdrefnol

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Rheol Sefydlog 26C - Deddfau Cydgrynhoi’r Senedd

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar ôl iddo ystyried y Bil Cydgrynhoi cyntaf a gyflwynwyd yn y Senedd, sef Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a chytunodd i gynnal adolygiad cyfyngedig o'r Rheolau Sefydlog perthnasol cyn cyflwyno'r Bil Cydgrynhoi nesaf, a chyn yr adolygiad llawn y bwriedir ei gynnal yn ddiweddarach yn ystod y Senedd hon.