Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiad a ganlyn i agenda dydd Mawrth:

  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymrwymiadau Sero Net (45 munud)

 

·       Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm.

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod wedi cytuno i ffotograffydd allu cael mynediad i'r Siambr yn rheolaidd dros yr wythnosau nesaf er mwyn creu llyfrgell fwy cynhwysfawr o ddelweddau y gellir eu defnyddio ar gyfer gohebiaeth gorfforaethol yn ogystal â chan yr Aelodau eu hunain.

 

Dydd Mercher

 

Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau bod amseriadau ar gyfer cyfraniadau wedi'u cyfyngu yn ystod dadleuon 30 munud y gwrthbleidiau. Dywedodd y Llywydd hefyd y bydd yn galw siaradwyr yn y fath fodd ag i sicrhau bod modd mynegi cydbwysedd barn yn ystod y trafodaethau.

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm.

 

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 10 Hydref 2023

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru (30 munud) – wedi’i ohirio tan 24 Hydref

 

Gwnaeth Heledd Fychan gais am ddiweddariad ar amseriad datganiad llafar ynghylch newidiadau posibl i Gyllideb 2023-24. Cadarnhaodd y Trefnydd y byddai'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad llafar yn ystod mis Hydref.

 

3.3

Amserlen y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 18 Hydref 2023 –

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol (60 munud)
  • Dadl ar Ddeiseb P-06-1345: Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Rhianon Passmore (Islwyn) (30 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio - Amserlen Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymatebion gan y Pwyllgor Biliau Diwygio a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch trefniadau ar gyfer craffu ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfeirio'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai er mwyn ystyried yr egwyddorion cyffredinol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu ar y Bil.

 

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Amserlen Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am slot ar gyfer dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais y Pwyllgor Deisebau i gynnal dadl ar ddeiseb P-06-1345 ar 18 Hydref 2023, ac i ddadl ar ddeiseb P-06-1356 gael ei threfnu yn ddiweddarach.

 

5.2

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Llywydd ynghylch slotiau cyfarfodydd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais Pwyllgor y Llywydd i gwrdd fore Mawrth 7 Tachwedd 2023. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai'r Pwyllgor barhau i ofyn am slotiau cyfarfod amgen pan fydd angen iddo gwrdd y tu allan i'w slot cyfarfod penodedig.