Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Virtual

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i agenda dydd Mawrth:

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Diweddariad ar Cenedl Noddfa (30 munud)

 

Nododd y Llywydd y byddai'r datganiad ar y Diwydiant Dur yn debygol o ennyn cryn ddiddordeb gan yr Aelodau ac nad oedd yr amseru dangosol yn debygol o fod yn ddigonol. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried ymestyn yr amseru gyda Gweinidog yr Economi.

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm.

 

Dydd Mercher

 

Diolchodd y Trefnydd i'r Rheolwyr Busnes am gytuno i ail-drefnu dadleuon y gwrthbleidiau yr wythnos hon er mwyn hwyluso'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i ddadl y Ceidwadwyr.

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf.

 

Dydd Mawrth 26 Medi 2023 -

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cydnerthedd y System Iechyd a Gofal Cymdeithasol (30 45 munud)
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: Cadw: ymgysylltu cymunedau â threftadaeth (30 munud)

 

Dydd Mawrth 3 Hydref 2023 -

 

  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) (60 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Taith – Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Cymru (30 munud)

 

Gofynnodd Heledd Fychan eto am ddiweddariad llafar ar newidiadau posibl i Gyllideb 2023-24. Cadarnhaodd y Trefnydd y byddai'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad llafar yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 27 Medi -

  • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Gwneud offerynnau statudol ar ôl gadael yr UE (5 munud)

 

Dydd Mercher 11 Hydref 2023 –

 

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynnig arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i’w amserlennu ar 27 Medi:  

 

Rhys ab Owen

NNDM8274 

Mae’r Senedd hon: 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol i Lywodraeth y DU gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio'r ffin cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer dŵr gyda'r ffin genedlaethol. 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am y pwerau i drwyddedu cyflenwad dŵr neu drwyddedai carthffosiaeth a thrwy hynny ddatganoli dŵr yn llawn i Gymru. 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Cofnodion:

Amserlen ar gyfer y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i esbonio ei fod yn bwriadu cyfeirio'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) at y Pwyllgor i graffu ar egwyddorion cyffredinol, a gofyn am farn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y pwynt hwnnw ac ar yr amserlen arfaethedig. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i anfon copi o'r llythyr at y Pwyllgor Biliau Diwygio i roi cyfle iddo wneud unrhyw sylwadau y mae'n dymuno eu gwneud mewn perthynas â chyfrifoldeb dros graffu ar y Bil.

 

 

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25

5.1

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch yr amserlen ar gyfer Cyllideb 2024-25 Llywodraeth Cymru.

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes gynnig gan y Trefnydd i addasu'r amserlen ar gyfer Cyllideb 2024-25 a chytunodd i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid ar y cynigion diwygiedig a dychwelyd  at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

6.

Y Rheolau Sefydlog

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch gweithdrefnau sydd eu hangen er mwyn craffu ar Offerynnau Statudol sy'n deillio o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023.

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a bodlonrwydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad â'r diwygiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog. 

 

 

6.2

Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Gwneud offerynnau statudol ar ôl gadael yr UE

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes adroddiad drafft yn cynnwys newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog yn ymwneud â gwneud offerynnau statudol ar ôl gadael yr UE a chytunodd arno. Cytunodd y Pwyllgor y bydd cynnig i'r Senedd gytuno ar y newidiadau arfaethedig yn cael ei gyflwyno i'w drafod ddydd Mercher 27 Medi.