Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Virtual
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r
Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i agenda dydd Mawrth:
Nododd y Llywydd y byddai'r datganiad ar y Diwydiant Dur
yn debygol o ennyn cryn ddiddordeb gan yr Aelodau ac nad oedd yr amseru
dangosol yn debygol o fod yn ddigonol. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried
ymestyn yr amseru gyda Gweinidog yr Economi. · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.15pm. Dydd
Mercher Diolchodd y Trefnydd i'r Rheolwyr
Busnes am gytuno i ail-drefnu dadleuon y gwrthbleidiau yr wythnos hon er mwyn
hwyluso'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i ddadl y Ceidwadwyr.
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y
newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf. Dydd Mawrth
26 Medi 2023 -
Dydd Mawrth
3 Hydref 2023 -
Gofynnodd Heledd Fychan eto am ddiweddariad llafar ar
newidiadau posibl i Gyllideb 2023-24. Cadarnhaodd y Trefnydd y byddai'r
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad llafar yn ystod yr
wythnosau nesaf. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd Mercher 27 Medi -
Dydd
Mercher 11 Hydref 2023 –
|
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor Busnes y cynnig arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i’w amserlennu
ar 27 Medi: Rhys ab Owen NNDM8274 Mae’r Senedd hon: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn
yn ffurfiol i Lywodraeth y DU gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a
fyddai'n alinio'r ffin cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer dŵr gyda'r ffin
genedlaethol. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn
yn ffurfiol am y pwerau i drwyddedu cyflenwad dŵr neu drwyddedai
carthffosiaeth a thrwy hynny ddatganoli dŵr yn llawn i Gymru. |
|
Deddfwriaeth |
|
Amserlen ar gyfer y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) Cofnodion: Amserlen ar gyfer y Bil Etholiadau
a Chyrff Etholedig (Cymru) Cytunodd
y Pwyllgor Busnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i esbonio
ei fod yn bwriadu cyfeirio'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) at y
Pwyllgor i graffu ar egwyddorion cyffredinol, a gofyn am farn y Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai ar y pwynt hwnnw ac ar yr amserlen arfaethedig.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i anfon copi o'r llythyr at y Pwyllgor Biliau
Diwygio i roi cyfle iddo wneud unrhyw sylwadau y mae'n dymuno eu gwneud mewn
perthynas â chyfrifoldeb dros graffu ar y Bil. |
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 |
|
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch yr amserlen ar gyfer Cyllideb 2024-25 Llywodraeth Cymru. Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes gynnig
gan y Trefnydd i addasu'r amserlen ar gyfer Cyllideb 2024-25 a chytunodd i ymgynghori
â'r Pwyllgor Cyllid ar y cynigion diwygiedig a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch gweithdrefnau sydd eu hangen er mwyn craffu ar Offerynnau Statudol sy'n deillio o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023. Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr
a bodlonrwydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad â'r
diwygiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog. |
|
Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Gwneud offerynnau statudol ar ôl gadael yr UE Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes
adroddiad drafft yn cynnwys newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog yn
ymwneud â gwneud
offerynnau statudol ar ôl gadael yr UE a chytunodd arno. Cytunodd y Pwyllgor y bydd cynnig i'r Senedd gytuno ar y
newidiadau arfaethedig yn cael ei gyflwyno i'w drafod ddydd Mercher 27 Medi. |