Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i agenda dydd Mawrth:

·       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad addysg ar RAAC (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Adolygiad Annibynnol ac adroddiadau 2020-21 Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd (30 45 munud)

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20mya ar ffyrdd cyfyngedig (45 munud).

·       Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni (30 munud

·       Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (15 munud)

·       Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

·       Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (60 munud)

 

Gofynnodd Darren Millar a Heledd Fychan am ddiweddariad ar RAAC mewn mathau eraill o adeiladau. Nododd y Trefnydd y byddai'n ystyried datganiadau ysgrifenedig neu lafar pellach.

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm.

 

Dydd Mercher

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am fân newid i agenda ddydd Mercher:

 

  • Dadl ar ddeiseb P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndŵr,er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol (30 munud) aildrefnwyd i eitem 6
  • Dadl ar adroddiad Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled anghynaliadwy o ganlyniad i gostau byw cynyddol (60 munud) aildrefnwyd i eitem 7

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf.

 

Dydd Mawrth 19 Medi 2023

 

·       Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (60 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (45 munud)

·       Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas ag Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (15 munud)

 

Dydd Mawrth 26 Medi 2023

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cydnerthedd y System Iechyd a Gofal Cymdeithasol (30 munud)

·       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Siarter Iaith (Siarter Iaith Gymraeg): Fframwaith Cenedlaethol (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Costau Byw (30 munud)

 

Gwnaeth Heledd Fychan gais am ddiweddariad llafar ar Gyllideb 2023-24 yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 9 Awst. Nododd y Trefnydd y byddai'r llywodraeth yn darparu diweddariad pellach unwaith y bydd y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Cabinet wedi'i gwblhau.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 4 Hydref 2023 –

 

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Yr hawl i gael tai digonol (60 munud) 
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adroddiad Blynyddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru - 2022-23 (60 munud) 
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) 
  • Dadl Fer: Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd ynghylch Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr ynghylch yr angen i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu i’r ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau (Cymru) i gael ei chynnal.

 

 

4.2

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd i:

 

  • nodi'r Memorandwm atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Ardrethu Annomestig a chytunodd i beidio â'u cyfeirio at bwyllgorau yng ngoleuni'r ddadl cydsyniad deddfwriaethol a gynhelir heddiw.
  • nodi’r Memorandwm atodol (Memorandwm Rhif 2), y Memorandwm atodol (Memorandwm Rhif 3) a’r Memorandwm Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ynni, a chytunodd i beidio â'u cyfeirio at bwyllgorau yng ngoleuni'r ddadl cydsyniad deddfwriaethol a gynhelir heddiw.
  • cyfeirio’r Memorandwm atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau i gyflwyno adroddiad ar 13 Hydref 2023;
  • cyfeirio'r Memorandwm ar Fil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau i gyflwyno adroddiad ar 24 Tachwedd 2023.

 

 

4.3

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y Bil Ynni

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

 

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25

5.1

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch newidiadau arfaethedig i Brotocol Busnes y Gyllideb

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y ddau lythyr a chytunodd i aros am ganlyniad gwaith y Pwyllgor Cyllid.

 

 

5.2

Atodiad - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y newididau arfaethedig i Brotocol y Gyllideb

5.3

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr amserlen ar gyfer cyllideb 2024-25

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio ynghylch amserlen Bil Diwygio'r Senedd a dyraniad slotiau yn amserlen y pwyllgorau

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes gynigion y Pwyllgor Biliau Diwygio ar gyfer diwygio amserlen y gwaith craffu ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau a gynigiwyd i derfynau amser Cyfnod 1 a Chyfnod 2 ac wedi hynny cytunwyd ar amserlen ddiwygiedig ar gyfer y Bil.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i ddyrannu'r slot cyfarfod parhaol yr oedd y Pwyllgor Biliau Diwygio wedi gofyn amdano, gan nodi mai mater i'r Pwyllgor fyddai penderfynu sut y dylid defnyddio'r amser cyfarfod a ddarparwyd.

 

 

6.2

Llythyr gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch slot cyfarfod y pwyllgor

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i’r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 gwrdd ar y dyddiadau a'r amseroedd y gwnaed cais amdanynt yn ystod tymor yr hydref 2023.

 

 

7.

Gwaith Gweithdrefnol

7.1

Gweithdrefnau sydd eu hangen er mwyn craffu ar Offerynnau Statudol sy'n deillio o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y papur a chytunodd i ymgynghori â'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y dull arfaethedig o ddiwygio Rheolau Sefydlog 21, 27 a 30C, a dileu Rheol Sefydlog 30B, gyda'r bwriad o gynnig newidiadau i'r Senedd wedi hynny. 

 

 

7.2

Cwestiynau Amserol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes adborth a gafwyd gan grwpiau a nifer o faterion eraill yn ymwneud â'r canllawiau a'r gweithdrefnau presennol ar gyfer Cwestiynau Amserol.

 

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n ystyried cynigion ar gyfer diwygiadau posibl i ganllawiau mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

7.3

Papur ar Raglen Waith Weithdrefnol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar amserlennu arfaethedig ei waith gweithdrefnol.

 

Cynigiodd Darren Millar y dylid ystyried gosod terfyn amser ar ymatebion gweinidogol i gwestiynau.