Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Pwyllgor

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 17:45.

 

Gofynnodd Heledd Fychan am ddatganiadau'r Llywodraeth ar y Grant Hanfodion Ysgol a'r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol cyn toriad yr haf. Dywedodd y Trefnydd y byddai’n codi hyn gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ac y byddai diweddariadau yn debygol o gael eu darparu ar ffurf datganiadau ysgrifenedig.

 

Dydd Mercher

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig bod y Senedd yn ethol Buffy Williams yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn lle Sarah Murphy. Tynnodd y Llywydd sylw at hyn a’r ychwanegiadau a ganlyn at gyfarfod dydd Mercher:

 

  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
  • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru (5 munud)
  • Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud)
  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.3 i sefydlu pwyllgor: Y Pwyllgor Biliau Diwygio (5 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio gan y grŵp Llafur yn y cyfarfod ddydd Mercher.

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 20:00.

 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

Gofynnodd Heledd Fychan am ddiweddariad ar amserlen dadl Cyfnod 3 ar gyfer Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru). Dywedodd y Trefnydd fod dyddiad y ddadl yn dibynnu ar amserlen y Bil Caffael yn San Steffan ac y byddai'n diweddaru’r Rheolwyr Busnes cyn gynted ag y byddai rhagor o wybodaeth ar gael.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 27 Medi 2023 –

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl fer (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd ar filiau Llywodraeth y DU sy’n gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Senedd, neu’n debygol o fod yn gofyn am gydsyniad, yn dilyn toriad yr haf.

 

 

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol ar gyfer 2024-25

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes bryderon y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr amserlen arfaethedig a’r ffaith bod Llywodraeth Cymru unwaith eto yn cynnig peidio â dilyn y protocol y cytunwyd arno rhwng y Senedd a’r Llywodraeth. Cadarnhaodd y Trefnydd fod hyn o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch amseriad digwyddiad cyllidol hydref Llywodraeth y DU, a nododd y byddai’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ymateb yn ysgrifenedig i bryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Cyllid.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen arfaethedig ac y byddai’n ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i’w wahodd i ystyried adolygu gweithdrefnau’r gyllideb yn sgil profiad y blynyddoedd diwethaf.

 

 

5.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y Ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2023-24

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. Nododd y Trefnydd nad oedd unrhyw bryderon wedi’u mynegi iddi hi na’r Pwyllgor Busnes cyn y ddadl ond cytunodd i drefnu dadleuon o’r math hwn yn y dyfodol am 30 munud.

 

 

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Trefniadau craffu ar gyfer Bil Diwygio'r Senedd a deddfwriaeth gysylltiedig

6.2

Bil Diwygio'r Senedd - amserlen

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau craffu ar gyfer Bil Diwygio’r Senedd a deddfwriaeth gysylltiedig, a chytunwyd ar y canlynol:

 

  • Cyflwyno cynigion perthnasol i gynnig yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf bod y Senedd yn sefydlu Pwyllgor Biliau Diwygio gyda chylch gwaith i graffu ar Filiau a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes;
  • Dyrannu Cadeirydd y Pwyllgor i'r grŵp Llafur a gwahodd enwebiadau ar gyfer y swydd honno yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf;
  • Y dylai’r Pwyllgor gynnwys pedwar aelod, gan gynnwys y Cadeirydd, (dau Lafur, un yr un o’r grwpiau Ceidwadol a Phlaid Cymru) a chofnodi ei bod yn well ganddo i Jane Dodds gael ei gwahodd gan y Cadeirydd i gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Pwyllgor fel y’i nodwyd yn Rheol Sefydlog 17.49;
  • Cyfeirio egwyddorion cyffredinol Bil Diwygio'r Senedd at Bwyllgor newydd y Bil Diwygio ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1;
  • Ymgynghori â Phwyllgor y Bil Diwygio ar amserlen arfaethedig y Bil i lywio penderfyniad terfynol gan y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y mater o ran a ddylai’r Bil Gweinyddu Etholiadol arfaethedig ar gyfer llywodraeth leol hefyd gael ei gyfeirio at y Pwyllgor Biliau Diwygio yn nhymor yr hydref.

 

 

7.

Amserlen y Senedd

7.1

Dyddiadau Toriadau

Cofnodion:

Business Committee considered and confirmed the dates for Spring Half Term and Easter Recess 2024 and agreed provisional recess dates for Whitsun Half Term and Summer Recess 2024, adjusting the provisional dates of the Summer recess for 2024 as indicated below.

 

Recess 

Dates  

Summer Recess 2023 

Monday 17 July 2023 - Sunday 10 September 2023 

Autumn Half Term 

 

Mon 30 October 2023 – Sunday 5 November 2023 

Christmas Recess 

 

Mon 18 December 2023 – Sunday 7 January 2024 

Spring Half Term 

Monday 12 February 2024 – Sunday 18 February 2024 

Easter Recess 

Monday 25 March 2024 – Sunday 14 April 2024 

*Whitsun Half Term 

 

Mon 27 May 2024- Sunday 2 June 2024 

*Summer Recess 

Mon 22 July 2024 – Sunday 15 September 2024 

 

* Provisional dates to be confirmed by Business Committee. 

 

8.1

Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn a’r trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig yn ystod toriad yr haf. 

 

 

9.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Balot Bil Aelod ac adolygiad o'r broses ddethol

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal balot nesaf y Bil Aelod gan ddefnyddio’r gweithdrefnau presennol, cyn unrhyw adolygiad o’r broses ddethol y gall gytuno i’w gynnal wedi hynny.

 

Nododd y Pwyllgor hefyd ei bod yn fwriad gan y Llywydd i gyhoeddi yn ystod y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon y dyddiad yn nhymor yr hydref y cynhelir y balot nesaf ar y Bil Aelod, er mwyn galluogi’r Aelodau i baratoi.

 

 

8.

Trefniadau cyflwyno