Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau'r i'r cyfarfod. Croesawodd y Llywydd Heledd Fychan i'w chyfarfod
cyntaf fel aelod o’r Pwyllgor Busnes a diolchodd i Siân Gwenllian am ei
chyfraniad at waith y Pwyllgor. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes mai hi fydd yn ateb y Cwestiynau i’r Prif
Weinidog heddiw yn lle’r Prif Weinidog. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnig bod y Senedd yn ethol yr Aelodau a ganlyn i
bwyllgorau, ac i'r cynigion gael eu trafod yn dilyn y Datganiad a Chyhoeddiad
Busnes: -
Mabon ap Gwynfor
i gymryd lle Rhun ap Iorwerth ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol -
Heledd
Fychan i gymryd lle Sioned Williams ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg -
Luke
Fletcher i gymryd lle Mabon ap Gwynfor ar y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai -
Llyr Gruffydd
i gymryd lle Heledd Fychan ar Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg,
Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol -
Adam Price
i gymryd lle Peredur Owen Griffiths ar y Pwyllgor Ddeddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad -
Peredur
Owen Griffiths i gymryd lle Luke Fletcher ar y Pwyllgor Deisebau -
Adam Price
i gymryd lle Mabon ap Gwynfor ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Dydd
Mercher Tynnodd y
Llywydd sylw at y newid a ganlyn:
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd
wybod i’r Rheolwyr Busnes y byddai angen gohirio'r ddadl Cyfnod 3 ar Fil
Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) o 11 Gorffennaf tan dymor yr hydref, am fod
angen cyflwyno gwelliannau yn sgil y newidiadau i'r Bil Caffael yn San Steffan. Yn
gysylltiedig â hynny, tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn: Dydd Mawrth
11 Gorffennaf 2023 · · Dadl: Adroddiad Blynyddol
Llywodraeth Cymru – cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y
llywodraeth · Dydd Mawrth
12 Medi 2023 · Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Adolygiad Annibynnol ac adroddiadau 2020-21 Cyfoeth Naturiol Cymru ar
lifogydd (30 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos
nesaf: Dydd
Mercher 12 Gorffennaf 2023 –
Dydd Mercher 20 Medi 2023 –
|
|
Llythyr oddi wrth gadeiryddion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deisebau ynghylch dadl ar y cyd ar adroddiadau yn ymwneud â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal Cofnodion: Derbyniodd
y Pwyllgor Busnes gais y pwyllgorau i gynnal dadl ar y cyd ar eu hadroddiadau
yn ymwneud â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan gytuno
i newid teitl y ddadl ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes i adlewyrchu hynny.
Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd:
|
|
Deddfwriaeth |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
gyfeirio Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ynni i’r Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad graffu arno, gan nodi mai 15 Medi oedd y terfyn amser ar gyfer
cyflwyno adroddiad. Nododd y Pwyllgor lythyr oddi wrth
Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Dros Dro at y
Gweinidog Newid Hinsawdd yn mynegi pryder difrifol y Pwyllgor am oedi gan
Lywodraeth Cymru wrth osod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. |
|
Bil Diwygio'r Senedd - amserlen Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes
amserlen arfaethedig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ystyried Bil Diwygio'r
Senedd, a chytunodd i ohirio’r penderfyniad ar y mater hwn nes ei fod wedi
ystyried yn llawn y trefniadau ar gyfer craffu ar Filiau sy’n ymwneud â diwygio'r
Senedd, ac wedi ymgynghori â'r Pwyllgor priodol ynghylch amserlen arfaethedig y
Bil. |
|
Craffu ar Filiau yn ymwneud â Diwygio’r Senedd Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes opsiynau ar gyfer y dull cyffredinol o graffu ar Filiau yn
ymwneud â Diwygio'r Senedd a chytunodd i sefydlu pwyllgor Biliau annibynnol, ac
i gyfeirio’r ddau Fil sy’n ymwneud â diwygio'r Senedd at y Pwyllgor hwnnw ar
gyfer gwaith craffu Cyfnod 1. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'n ystyried
cynnig i'r Senedd y dylai trafodion Cyfnod 2 gael eu cynnal gan Bwyllgor o'r
Senedd Gyfan. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y byddai’n trafod ymhellach y goblygiadau posibl pe bai’r un
Pwyllgor yn cael cais i fod yn gyfrifol am graffu ar Fil disgwyliedig ar
weinyddiaeth etholiadol a Bil diwygio yn yr un cyfnod. Roedd y
rhan fwyaf o aelodau'r Pwyllgor Busnes yn cytuno y dylid gwahodd y grŵp
Llafur i enwebu Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Cytunwyd hefyd y dylai'r
Pwyllgor gynnwys pedwar aelod (dau o’r Blaid Lafur, un yr un o grwpiau’r
Ceidwadwyr a Phlaid Cymru), ac y dylid ystyried ymhellach yr opsiynau ar gyfer
cynnwys Jane Dodds. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai aelodaeth y Pwyllgor yn
gytbwys rhwng y rhywiau. Y tu allan
i'r cyfarfod, bydd yr ysgrifenyddiaeth hefyd yn rhannu dadansoddiad â’r
Rheolwyr Busnes o’r sefyllfa bresennol o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith
cadeiryddion ac aelodau’r pwyllgorau. |
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 |
|
Llythyr oddi wrth y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol ar gyfer 2024-25 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes yr
amserlen arfaethedig ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol
ar gyfer 2024-25 a chytunodd i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid ar yr amserlen
arfaethedig ac i ddychwelyd at y mater yn eu cyfarfod cyntaf yn nhymor yr
hydref. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes
adroddiad drafft yn cynnwys cynnig am Reol Sefydlog dros dro ar Bwyllgor Diben
Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru, a chytunodd arno. Bydd cynnig bod y Senedd
yn cytuno ar y Rheol Sefydlog dros dro arfaethedig yn cael ei gyflwyno i'w
drafod ddydd Mercher 12 Gorffennaf. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i
ysgrifennu at y Bwrdd Taliadau Annibynnol i roi crynodeb o'r hyn a benderfynwyd
ganddo ac i lywio trafodaethau’r Bwrdd ynghylch y trefniadau o ran tâl y
Cyd-gadeiryddion. |