Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: 

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad 'Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU' Gohiriwyd tan 4 Gorffennaf 
  • Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi (5 mun) 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.55pm.

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.40pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 4 Gorffennaf 2023

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad ‘Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU’ (30 munud)

 

Dydd Mawrth 11 Gorffennaf 2023

 

·       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynnydd ar gyflwyno'r cwricwlwm newydd (30 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 13 Medi 2023 –

 

·      Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Anghynaliadwy - dyled o ganlyniad i gostau byw cynyddol (60 munud) 

·      Dadl ar ddeiseb P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndŵr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau'r dyfodol (30 munud)

·      Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

·      Dadl fer (30 munud)

 

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch slot cyfarfod y pwyllgor

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais i’r Pwyllgor gwrdd am y tro cyntaf ddydd Mawrth 11 Gorffennaf, a chytunwyd arno.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd adroddiad drafft sy'n cynnwys y Rheolau Sefydlog Dros Dro arfaethedig sy'n ymwneud â'r trefniadau cyd-gadeirio ar gyfer y Pwyllgor yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Busnes.

 

 

5.

Diwygio’r Senedd

5.1

Papur i’w nodi - Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch diwygio’r Senedd a theitl y Llywydd

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a’r ffaith na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i’r teitl a ddefnyddir ar gyfer y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn y ddeddfwriaeth sydd ar ddod ar Ddiwygio’r Senedd.

 

Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn rhoi nodyn cyfreithiol ar wahaniaethau yng nghymhwysedd deddfwriaethol y Senedd i ddiwygio enw'r sefydliad a theitl y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.

 

 

6.

Rhaglen waith weithdrefnol

6.1

Ystyriaethau gweithdrefnol ar ôl gadael yr UE

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu'r Rheolau Sefydlog perthnasol a nodwyd yn argymhellion diweddar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas ag effaith ymarferol Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ar ddeddfwriaeth a wnaed gan y Senedd, neu sy’n effeithio arni.

 

Fel rhan o'r adolygiad, nododd y Pwyllgor Busnes y bydd cynigion yn cael eu cynhyrchu mewn perthynas â'r ffyrdd posibl y gellid diwygio Rheolau Sefydlog, a chytunwyd y byddai'n ymgynghori â'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i ystyried cynigion i newid y trefniadau craffu cyfredol ar gyfer Fframweithiau Polisi Cyffredin fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Bumed Senedd, mewn ymgynghoriad â Fforwm y Cadeiryddion.

 

 

7.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Cynigiodd Siân Gwenllian y dylid symud y trafodaethau ynghylch rhannu swyddi mewn swyddi ychwanegol anweithredol yn y Senedd i dymor yr hydref. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â’i waith gweithdrefnol yn unol â’r rhaglen bresennol, gan gynnwys ystyried ymhellach rhannu swyddi yn ystod 2024, a thrafod rhaglen waith weithdrefnol wedi’i diweddaru ar ddechrau tymor yr hydref.