Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Virtual via Zoom
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd
Mercher Tynnodd y
Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn: Dydd Mawrth
4 Gorffennaf 2023 · Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd:
Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau (30 munud) · Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Caffael (15 munud) Rhoddodd y
Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Busnes am y ddadl Cyfnod 3 ar Fil
Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), a drefnwyd ar gyfer 11 Gorffennaf, gan
nodi bod angen nifer fach o ddiwygiadau technegol i’r Bil oherwydd newidiadau a
wnaethpwyd i Fil Caffael y DU. Gan fod yr amserlen ar gyfer Bil Caffael y DU
wedi newid ac efallai na fydd y gwaith o graffu arno’n cael ei gwblhau cyn y
terfyn amser presennol ar gyfer cyflwyno gwelliannau i Fil Caffael y Gwasanaeth
Iechyd (Cymru) yng Nghyfnod 3, nododd y Trefnydd y bydd y Llywodraeth yn parhau
i fonitro ei hynt a bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Busnes am
unrhyw effaith y bydd hyn yn ei gael hyn ar ddadl Cyfnod 3 yn ôl yr
angen. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd Mercher 28 Mehefin 2023 – Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan
Aelod – Adam Price (30 munud) – wedi’i
symud o 21 Mehefin Dydd Mercher 12 Gorffennaf 2023 –
|
|
Diweddariad ar y trefniadau ar gyfer y sesiwn ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau terfynol ar
gyfer y sesiwn ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru ar 21 Mehefin, gan gynnwys y
dyraniadau siarad ar gyfer Aelodau a fformat y cwestiynau i Lywodraeth Cymru. |
|
Deddfwriaeth |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar Femoranda
Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunwyd ar achub y blaen a chyfeirio'r Memorandwm
Atodol ar y Bil Caffael (Memorandwm Rhif 6) at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
i graffu, gan nodi bod angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 3 Gorffennaf. Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Busnes am y Bil
Ffyniant Bro ac Adfywio, gan nad yw Llywodraeth Cymru bellach yn ei ragweld yn
cael Cydsyniad Brenhinol cyn toriad yr haf. Bydd gwelliannau y disgwylir iddynt
gael eu cyflwyno cyn toriad y Senedd yn debygol o arwain at Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol arall ac, o ganlyniad, mae’n debygol y caiff
dadl arall ar gynnig cydsyniad ei chynnal ym mis Medi. Bydd y Trefnydd yn
darparu diweddariad pellach cyn y toriad os yw’r sefyllfa'n newid. |
|
Pwyllgorau |
|
Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch cais i aelodau’r Pwyllgor gynnal busnes y Pwyllgor yng Nghaergybi Cofnodion: Gwnaeth y Pwyllgor Busnes drafod y
cais i aelodau Pwyllgor adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar ar 12 Mehefin er mwyn
ymgymryd â busnes y Pwyllgor yng Nghaergybi, a chytunwyd arno. |
|
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cais i aelodau’r Pwyllgor wneud gwaith ymgysylltu ar 21 Mehefin Cofnodion: Gwnaeth y Pwyllgor Busnes drafod y
cais i aelodau Pwyllgor adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar ar 21 Mehefin er mwyn
ymgymryd â gwaith ymgysylltu’r Pwyllgor, a chytunwyd arno. |
|
Cyd-Gadeiryddion: Goblygiadau Ymarferol, Gweithdrefnol a Chyfreithiol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y
goblygiadau ymarferol, gweithdrefnol a chyfreithiol sy'n deillio o benodi
Cyd-Gadeiryddion i Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru. Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor:
Trafododd y Pwyllgor Busnes sawl
mater i’w cynnwys mewn Rheol Sefydlog Dros Dro a chytunwyd mewn egwyddor y
dylai gynnwys darpariaethau a oedd yn nodi’r hyn a ganlyn: ·
bod
cyfeiriadau yn y Rheolau Sefydlog at “gadeirydd” pwyllgor i gael eu dehongli i
olygu “cyd-gadeirydd” y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ymchwiliad Covid; ·
bod rhaid i
swyddogaethau cadeiryddion pwyllgorau a amlinellir yn y Rheolau Sefydlog gael
eu harfer ar y cyd gan Gyd-Gadeiryddion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ymchwiliad
Covid; ·
bod rhaid
cytuno ar brotocol rhwng y Cyd-Gadeiryddion sy'n nodi eu ffyrdd o weithio ar y
cyd; ·
na chaiff y
trefniant cyd-gadeirio gynnwys mwy na dau Aelod unigol. Hefyd, trafododd y Pwyllgor Busnes
effaith absenoldeb dros dro un, neu’r ddau, o’r Cyd-Gadeiryddion, gan gynnwys y
trefniadau ar gyfer cadeirio dros dro. Gwnaethant drafod a ddylid penodi
Cyd-Gadeirydd dros dro o’r un grŵp â’r Cyd-Gadeirydd absennol, a chytunwyd
mewn egwyddor y dylid ystyried manylion y materion ymarferol a gweithredol sy’n
deillio o absenoldeb dros dro wrth ddatblygu protocol rhwng
Cyd-Gadeiryddion. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y
dylai’r Rheol Sefydlog Dros Dro arfaethedig ddod i ben os diddymir Pwyllgor
Diben Arbennig ar Ymchwiliad Covid drwy benderfyniad y Senedd neu adeg
diddymu’r Chweched Senedd, pa un bynnag sydd gynharaf. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y
byddent yn trafod y materion hyn â Chyd-Gadeiryddion y Pwyllgor Diben Arbennig
ar Ymchwiliad Covid-19 ac yn dychwelyd i drafod Rheol Sefydlog Dros Dro drafft
mewn cyfarfod yn y dyfodol, gyda’r bwriad o’i gynnig yn y Senedd cyn toriad yr
haf. Cytunwyd hefyd i rannu â’r Bwrdd
Taliadau Annibynnol unrhyw fanylion gweithdrefnol perthnasol ar gyfer ei
benderfyniadau ar faterion yn ymwneud â thâl y Cyd-Gadeiryddion. |