Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Virtual via Zoom
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds |
|||||||||||||||
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|||||||||||||||
Trefn Busnes |
|||||||||||||||
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: · · Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros
dro (5 munud) · Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros
dro (5 munud) · Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) (30 munud) · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 5.55pm. Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn talu teyrnged i gyn-Ysgrifennydd
Gwladol Cymru, yr Arglwydd John Morris, ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn a bydd
hefyd yn gwahodd y Prif Weinidog i roi teyrnged. Dydd
Mercher
Trafododd y
Pwyllgor Busnes unwaith eto yr arfer sydd gan grwpiau’r gwrthbleidiau o
gyflwyno dau gynnig i'w trafod yn ystod un bloc o amser wedi’i neilltuo, yng
ngoleuni pwnc y cynigion a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig i'w trafod ddydd
Mercher 7 Mehefin. Nododd y Llywydd bod posibilrwydd y byddai galw mawr am
amser siarad a dywedodd y byddai'n ceisio sicrhau cydbwysedd priodol i ganiatau
i bawb allu rhoi barn yn ystod y ddadl. Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes
atgoffa Aelodau eu grwpiau bod yr amser a ganiateir ar gyfer cyfraniadau unigol
yn cael ei gyfyngu yn ystod dadleuon a drefnir am 30 munud. |
|||||||||||||||
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
13 Mehefin 2023 · Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Wythnos Ffoaduriaid, 19-25 Mehefin –
Tosturi (30 munud) – wedi’i ddwyn ymlaen o 20 Mehefin · · Cynnig i amrywio'r drefn ystyried
ar gyfer gwelliannau Cyfnod Adrodd y Bil Amaethyddaieth (Cymru) (5 munud) Dydd Mawrth
20 Mehefin 2023 · · Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Iechyd Meddwl a Lleisaint · · Dadl: Cyfnod Adrodd y Bil
Amaethyddiaeth (Cymru) (90 munud) |
|||||||||||||||
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes lythyr gan y Pwyllgor Deisebau yn gofyn am ddadleuon ar dair
deiseb sydd wedi cael dros 10,000 o lofnodion: · P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws
marwol brech y gwiwerod · P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn
saff i genedlaethau'r dyfodol · P-06-1340 Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu dadleuon ar y tair deiseb ac, yn benodol, i ddarparu
ar gyfer y ddadl ar ddeiseb P-06-1340 cyn toriad yr haf oherwydd bod y
weithred y mae'n galw amdani yn sensitif o ran amser, ac i drefnu dadl ar
ddeiseb P-06-1337 ddydd Mercher 13 Medi i gyd-fynd â diwrnod Owain Glyndŵr
ar 16 Medi. Bydd dadl ar P-06-1332 yn cael ei threfnu yn ystod tymor yr hydref. Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd Mercher 28 Mehefin 2023 -
|
|||||||||||||||
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i
amserlennu’r cynigion canlynol i gael eu trafod: 14
Mehefin: Hefin
David NNDM8275 Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
nodi bod Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfyngau lluosog, sef yr
argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni, a'r argyfyngau hinsawdd a natur, a bod
ymgyrch Warm This Winter yn cydnabod bod yr argyfyngau hyn yn gysylltiedig ac
wedi'u hymblethu, a bod yr un ffactorau wedi'u hachosi a'r un atebion sydd
iddynt. 2. Yn
nodi bod ymgyrch Warm This Winter yng Nghymru yn galw am gymorth brys i'r rhai
mwyaf bregus. 3. Yn
nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno buddsoddiad i gefnogi aelwydydd bregus
y gaeaf diwethaf, ei bod wedi cyhoeddi cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru, a
chynlluniau effeithlonrwydd ynni ychwanegol ar gyfer ein cartrefi, ond bod
angen gwneud mwy. 4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio i weithredu atebion ar gyfer llwybr
gwirioneddol allan o'r argyfwng costau byw, drwy gydnabod bod camau allweddol i
fynd i'r afael â diogelwch ynni a'r argyfwng hinsawdd - fel cynnydd mawr mewn
effeithlonrwydd ynni a chyflwyno ynni cymunedol ledled Cymru. 5. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i godi pryderon gyda Llywodraeth y DU am gost ynni,
a'r angen i sicrhau bod cynlluniau cymorth y DU ar waith i sicrhau bod pobl yn
gynnes y gaeaf hwn, a phob gaeaf i ddod.
5
Gorffennaf: Luke
Fletcher NNDM8273 Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
nodi: a) bod
cyffredinrwydd epilepsi ledled Cymru yn 1 y cant (tua 32,000 o bobl ag
epilepsi), gydag amrywiad lleol yn gysylltiedig â lefelau amddifadedd; b) bod
11.5 o nyrsys arbenigol epilepsi cyfwerth ag amser cyfan yng Nghymru, sy'n
cyfateb i gymhareb o 1 nyrs i bob 2,823 o gleifion; c) bod
adroddiad Steers (2008) yn argymell cymhareb o 300 o gleifion i un nyrs
arbenigol epilepsi a fyddai'n cyfateb i gyfanswm o 107 o nyrsys arbenigol
epilepsi yng Nghymru. 2. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
cefnogi mesurau i leihau amseroedd aros presennol i gleifion a defnyddwyr
gwasanaeth sy'n defnyddio gwasanaethau epilepsi; b)
cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, drwy sicrhau bod y lefelau
staffio ar draws byrddau iechyd Cymru yn cael adnoddau priodol i gyflawni a
chynnal cynaliadwyedd, diogelwch cleifion, ac ansawdd gwasanaeth. Adroddiad
Argymhellion Grŵp Adolygu Arbenigol Allanol Niwrowyddoniaeth Cymru ar
gyfer Canolbarth a De Cymru |
|||||||||||||||
Deddfwriaeth |
|||||||||||||||
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad
ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol presennol a chytunodd i:
|
|||||||||||||||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ynghylch amserlen y Bil Seilwaith (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr
amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu ar amserlen y Bil Seilwaith
(Cymru). Nododd y
Pwyllgor gais y Pwyllgor fod y Llywodraeth yn ystyried ymrwymiadau gwaith
craffu deddfwriaethol presennol y Pwyllgor wrth gynnig amserlen ar gyfer Bil ar
Ddiogelwch Tomenni Segur, os cyflwynir un yn ystod trydedd flwyddyn y rhaglen
ddeddfwriaethol |
|||||||||||||||
Papur i’w nodi - Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr,
a fyddai'n cael ei gysylltu ag agenda'r Cyfarfod Llawn i helpu i lywio'r ddadl
ar y Memorandwm Atodol y prynhawn hwnnw. |
|||||||||||||||
Amserlen y Senedd |
|||||||||||||||
Dyddiadau Toriadau Cofnodion: Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y
dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig 2023, a chytunwyd
ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a’r Pasg 2024. Y rhain yw:
*Dyddiadau
dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes. |
|||||||||||||||
Ymgysylltu ag Ewrop |
|||||||||||||||
Gohebiaeth am Gyngres Cyngor Ewrop Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes fater parhaus
enwebiadau'r Senedd ar gyfer cynrychiolwyr ar Gyngres Cyngor Ewrop, gan nodi’r
gwahaniaeth barn rhwng grwpiau pleidiau o ran enwebiadau, a chytunodd y
byddai’n dychwelyd at benderfyniad terfynol ar y mater yn y cyfarfod dilynol. |