Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video conferece via Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cryfhau ein cysylltiadau ag Iwerddon a Gogledd-orllewin Lloegr (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Dathlu Gwirfoddolwyr (30 munud)
  • Dadl: Cyfnod 4 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (15 munud)

 

  • Ni fydd cyfnod pleidleisio.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.30pm.

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 6 Mehefin 2023

 

·       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adolygiad o Gysylltiadau Addysg â Chyflogwyr (30 munud)gohiriwyd tan fis Gorffennaf

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud) gohiriwyd tan 13 Mehefin

·       Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (15 munud)

 

Dydd Mawrth 13 Mehefin 2023

 

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud) – gohiriwyd o 6 Mehefin

 

Gofynnodd Darren Millar i’r Llywodraeth gyflwyno datganiad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn toriad yr haf.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 21 Mehefin 2023 -

 

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Deintyddiaeth (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl fer: Joel James (Canol De Cymru) (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:

 

  • cyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion a osodwyd ar 19 Mai at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu, gyda dyddiad cau o 14 Gorffennaf ar gyfer cyflwyno adroddiad.
  • cyfeirio ymlaen llaw’r Memorandwm Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Mudo Anghyfreithlon at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 19 Mehefin.
  • ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) a ragwelir, a’r holl Femoranda eraill ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio tan 12 Mehefin.

 

Rhoddodd y Trefnydd ddiweddariad llafar hefyd ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), y mae gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud iddo yn San Steffan ar hyn o bryd, a chadarnhaodd y bydd Memorandwm Atodol yn cael ei osod cyn gynted â phosibl. Nododd y Trefnydd bosibilrwydd y gallai fod angen cynnal y ddadl cydsyniad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn mor gynnar â 6 Mehefin.

 

 

 

4.2

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr ac nad yw’r Pwyllgor yn bwriadu cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm.

 

 

4.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr ac nad yw’r Pwyllgor yn bwriadu cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Atodol.

 

 

4.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch ei adroddiad ar y Bil Bwyd (Cymru)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes yr argymhelliad, a chytunodd i ymateb i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn nodi ei fod yn bwriadu trafod opsiynau ar gyfer adolygiad posibl o broses Biliau Aelodau yn ystod tymor yr haf, a bydd yn ystyried argymhelliad y Pwyllgor wrth wneud hynny.

 

 

4.5

Papur i’w nodi - Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch cais i aelodau’r Pwyllgor gynnal busnes y Pwyllgor yn ystod toriad yr haf

Cofnodion:

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i fynd ar ymweliad i Frwsel yn ystod wythnos olaf toriad yr haf.

 

 

 

5.2

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch slotiau cyfarfodydd ychwanegol i’r pwyllgor

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Busnes gais y Pwyllgor Safonau Ymddygiad iddo gael hyblygrwydd i gwrdd ar fore Llun pan nad oes ganddo slot cyfarfod wedi'i amserlennu, yn ôl yr angen.

 

 

5.3

Sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes faterion yn ymwneud â sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddant yn cynnig y dylai’r Pwyllgor gynnwys tri aelod Llafur, dau o’r Ceidwadwyr ac un o Blaid Cymru, gan gynnwys Cyd-gadeiryddion.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2T i ddatgymhwyso'r broses ar gyfer ethol Cadeirydd i'r Pwyllgor, a chynnig y dylid penodi Cyd-gadeiryddion. Cytunwyd y byddai'r Cyd-gadeiryddion yn Aelodau o'r grwpiau Llafur a'r Ceidwadwyr ac y dylent fod yn gytbwys o ran rhywedd. Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai Cyd-gadeiryddion yn gysyniad newydd ar gyfer y Senedd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor Busnes y dylid drafftio'r cynnig/cynigion sy'n ofynnol i weithredu eu penderfyniad, gyda'r bwriad o gynnig atal Rheolau Sefydlog dros dro i alluogi'r Pwyllgor i gael ei sefydlu ddydd Mercher 24 Mai. Dywedodd y Llywydd y byddai ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i oblygiadau ymarferol, gweithdrefnol a chyfreithiol Cyd-gadeiryddion. 

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y drafodaeth ynghylch amserlennu cyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

 

6.

Casglu ynghyd ganllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17

6.1

Diweddariadau ar y Canllawiau ar Gynnal Busnes y Senedd yn Briodol a diwygiadau iddynt

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau arfaethedig i’r canllawiau. Gofynnodd Darren Millar i gyngor pellach gael ei roi ar ddefnyddio'r bleidlais fwrw mewn perthynas â phenderfyniadau ynghylch caniatâd i fwrw ymlaen â Biliau Aelodau mewn seneddau eraill. Gofynnodd y Trefnydd i ganllawiau mewn perthynas â chwestiynau Arweinwyr a Llefarwyr gael eu diwygio i ddangos na ddylid eu defnyddio ar gyfer materion etholaethol yn unig. Dywedodd y Llywydd y byddai’n trafod y materion a godwyd ymhellach. 

 

 

7.

Ymgysylltu ag Ewrop

7.1

Gohebiaeth am Gyngres Cyngor Ewrop

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes fater parhaus enwebiadau'r Senedd ar gyfer cynrychiolwyr ar Gyngres Cyngor Ewrop, gan nodi’r gwahaniaeth barn rhwng grwpiau’r pleidiau o ran enwebiadau, a chytunodd y byddai’n dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.

 

 

8.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y cynnig i eistedd ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru ddydd Mercher 21 Mehefin am 12.45 ac y bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu ar ôl hanner tymor.