Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:

 

  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar y Cynllun Cyflenwi ar gyfer Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio (30 munud)
  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.35pm.

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 16 Mai 2023

 

·       Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu pwyllgor Senedd (5 munud)

·       Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diwygio etholiadol (30 munud)

·       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Lleihau llwyth gwaith (30 munud)

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol – Cyhoeddi Cynllun Gweithredu (Cyfnod 1) Adroddiad y Grŵp Arbenigol (30 munud)

 

Dydd Mawrth 23 Mai 2023

 

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Wasanaethau Bysiau (45 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Costau Byw (30 munud)

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud) – gohiriwyd tan 6 Mehefin

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 7 Mehefin 2023 -

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl fer: Buffy Williams (Rhondda) (30 munud)

 

 

3.4

Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynnig arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i’w amserlennu i’w drafod ar 17 Mai: 

 

Janet Finch-Saunders

NNDM8230 

Cynnig bod y Senedd:  

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau bod datblygwyr adeiladau uchel iawn yn gyfrifol am faterion diogelwch.  

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:  

a) creu dyletswydd ar ddatblygwyr i ad-dalu lesddeiliaid am gostau rhesymol a gronnwyd o ganlyniad i faterion diogelwch adeiladau; a 

b) gwahardd unrhyw ddatblygwr sy’n gwrthod cyweirio’r diffygion diogelwch tân ar adeiladau a ddatblygwyd ganddynt rhag cael caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yng Nghymru. 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd ar y canlynol:

 

  • i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3)  ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio tan 5 Mehefin;
  • ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus tan 8 Mehefin;
  • cyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at ddibenion craffu, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 15 Mehefin.

 

 

 

5.

Rhaglen waith weithdrefnol

5.1

Rhaglen waith weithdrefnol y Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes raglen ddiwygiedig ar gyfer ei waith gweithrefnol, a chytunodd arni, gan gynnwys trafod ymhellach yr eitemau a ganlyn cyn cyn toriad yr haf:

 

  • Cyflwyno ‘uwch-ddadleuon’ yn y Cyfarfod Llawn
  • Diwygiadau gweithdrefnol ar ôl Brexit
  • Biliau Aelodau
  • Materion sy'n codi o ganlyniad i Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

 

Cytunodd y Pwyllgor i roi ystyriaeth bellach i waith gweithdrefnol a all fod yn ofynnol o ganlyniad i ddiwygio'r Senedd pan fydd deddfwriaeth wedi'i chyflwyno.