Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi cytuno i gais gan y BBC i ffilmio yn
yr oriel gyhoeddus yn ystod y datganiad ar Arferion Mabwysiadu Hanesyddol. Dydd
Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
2 Mai 2023 · Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad: Coroni Ei Fawrhydi Brenin Charles III (30 munud) ·
Dydd Mawrth
9 Mai 2023 · Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos
nesaf: Dydd Mercher 17 Mai 2023 –
|
|
Deddfwriaeth |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i wneud yr
hyn a ganlyn:
|
|
Gohebiaeth gan Gadeirydd Dros Dro Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch y Memorandwm Atodol (Rhif 2) ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr |
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Trefniadau
Cyflwyno Atgoffodd y
Llywydd y Rheolwyr Busnes am y newidiadau sy’n ofynnol i’r trefniadau cyflwyno
dros y pythefnos nesaf oherwydd gŵyl y banc ar 1 Mai ac 8 Mai. Yn ogystal
â’r newidiadau hynny, yn sgil y streic sydd wedi’i chynllunio ar gyfer dydd
Gwener 28 Ebrill, bydd y balot ar gyfer cwestiynau llafar i'r Prif Weinidog, y
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd
Cymru a’r Trefnydd ar 9 a 10 Mai bellach yn cael ei gynnal ddydd Iau 27 Ebrill.
Bydd cynigion y Llywodraeth ar gyfer dydd Mawrth 9 Mai hefyd yn cael eu
cyflwyno erbyn dydd Iau 27 Ebrill. |